Onwy Gower
Mae Onwy yn ddisgybl ym mlwyddyn 6 yn Ysgol Gymraeg Treganna, Caerdydd. Dechreuodd ei diddordeb mewn adar pan gafodd ei binociwlars cyntaf ac ymweld â llefydd i wylio adar fel Penclacwydd, ger Llanelli, ac ar hyd afon Taf. Un o'r pethau mwyaf diddorol welodd hi oedd yr holl adar ger Ynys Sgomer, gan gynnwys un o'i hoff adar, y pâl. Mae'n byw yng Nghaerdydd gyda'i mam, Sarah, ei thad, Jon, ei chware fawr, Elena, a'i chi, Ianto. Mae'n hoff o ddarllen llyfrau o bob math, yn enwedig llyfrau ditectif a llyfrau ffeithiol.