Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.
Llun o Ron Davies

Ron Davies

Ganed Ron Davies yn Aberaeron. Datblygodd ei ddiddordeb yn ffotograffiaeth tra'n blentyn, wrth iddo weithio fel bachgen negeseuon i fferyllfa yn y dref. Buodd yn gweithio fel ffotograffydd swyddogol ar staff 'Air Information' yn Ne Dwyrain Asia gyda'r Awyrlu Brenhinol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn 1950 cafodd ddamwain beic modur a bu'n gaeth i gadair olwyn am weddill ei fywyd. Gweithiodd i HTV, BBC, y Western Mail a'r Cymro ogystal a nifer o bapurau newydd cenedlaethol. Cynhyrchodd llawer o waith personol hefyd, gyda nifer fawr o arddangosfeydd. Roedd ganddo diddordeb mawr mewn dysgu ffotograffaeth. Yn 2002 ymunodd a Cylch y Beirdd yr Eisteddfod Genedlaethol, ac yn 2003 cafodd OBE am ei wasanaethau i Ffotograffaeth. Bu farw Ron Davies yn 2013.

https://en.wikipedia.org/wiki/Ron_Davies_(photographer)

LLYFRAU GAN YR AWDUR

Delweddau o Gymru / Images of Wales

- Ron Davies
£3.95

The Seven Wonders of Wales

- Ron Davies
£2.95