Kevin Gournay
Mae'r Athro Kevin Gournay CBE yn Athro Emeritws yn y Sefydliad Seiciatreg, Seicoleg a Niwrowyddoniaeth (Coleg y Brenin, Llundain). Yn ei waith clinigol yn ysbyty'r Priory, yng ngogledd Llundain, mae'n trin ffobiâu, panig ac anhwylderau gorbryder eraill, gan gynnwys anhwylder straen wedi trawma (PTSD) ac anhwylder gorfodaeth obsesiynol. Mae wedi rheoli prosiectau ymchwil a hyfforddiant yn y Deyrnas Unedig a ledled y byd, ac mae'n ymgynghorydd i Sefydliad Iechyd y Byd. Mae'n awdur toreithiog ac mae wedi ysgrifennu nifer o lyfrau Sheldon. Yn ogystal â bod yn llywydd, noddwr a sylfaenydd yr elusen No Panic, mae hefyd yn noddi nifer o elusennau eraill ac yn eu cynghori.