Medi Jones-Jackson
Yn wreiddiol o Ddyffryn Conwy, symudodd Medi i Aberystwyth fel myfyriwr gan ddisgyn mewn cariad gyda'r ardal a bachgen o Gaernarfon. Yn gyn swyddog hybu darllen i'r Cyngor Llyfrau cafodd Medi i hysbrydoli i ysgrifennu Genod Gwych a Merched Medrus, ei llyfr cyntaf, gan y diffyg sylw i hanes merched o Gymru. Yn fam i ddau mae gan Medi ddiddordrbau eang gan gynnwys garddio, ioga, teithio, ffilm a sioeau cerdd.