Elfyn Pritchard
Enillodd Elfyn Pritchard y Fedal Ryddiaith am ei gyfrol Trwy'r Tywyllwch yn 2001 a Gwobr Goffa Daniel Owen yn 2003 am ei nofel Pan Ddaw'r Dydd. Ef hefyd yw awdur Fel Nerthol Wynt. Cyhoeddir y nofelau gan Gomer.
Magwyd yr awdur yn Edeirnion, ond mae'n byw ym Mhenllyn ers blynyddoedd. Bu'n athro, yn brifathro ac yn ymgynghorydd addysg gynradd yng Ngwynedd hyd at ei ymddeoliad.
Yn 2003 dyfarnwyd iddo Dlws Coffa Mary Vaughan Jones am ei gyfraniad i lenyddiaeth plant.