If ordering from outside of the UK you may need to pay duty and other handling fees on top of our carriage charges.
A picture of Gwenda Owen

Gwenda Owen

Ganwyd Gwenda Owen yn 1965 a'i magu ar aelwyd gynnes ffermdy Capel Ifan ym mhentref Pontyberem yng Nghwm Gwendraeth, ardal sy'n agos iawn ati, ac ardal y mae Gwenda'n ei hystyried fel "lle bach gore'r byd". Aeth i'r ysgol fabanod ym Mhontyberem, ac yna ymlaen i Ysgol Uwchradd y Gwendraeth, ond roedd ei diddordeb mewn canu wedi dechrau ymddangos ymhell cyn mynd i'r ysgol uwchradd. Dechreuodd Gwenda ganu pan oedd ond rhyw chwech oed, a hynny drwy'r capel a'r ysgol Sul, ac eisteddfodau lleol hefyd. Roedd yn hoff iawn o ganu, ac roedd yn cael llawer o gyfle i ganu ac actio yn yr ysgol. Ym 1991 cafodd Gwenda'r cyfle i ryddhau ei chas�t cyntaf ar label Fflach sef Ffenestri'r Gwanwyn. Gwerthodd y cas�t yn dda, ac enillodd Gwenda nifer o gefnogwyr ar hyd a lled Cymru. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, rhyddhawyd ei hail gasgliad o ganeuon sef 'Aur o Hen Hafau', gyda phrif g�n y cas�t yn addasiad o glasur y Monkees sef 'Daydream Believer'. Daeth y trobwynt cyntaf yng ngyrfa Gwenda pan enillodd cystadleuaeth C�n i Gymru ym 1995 a ddarlledwyd yn fyw o Bafiliwn Pontrhydfendigaid. 'C�n i'r Ynys Werdd' oedd enw'r g�n fuddugol, wedi'i hysgrifennu ar y cyd gan Richard Jones ac Arwel John. Mae pob enillydd "C�n i Gymru" yn mynd yn eu blaen i gynrychioli Cymru yn yr W�yl Ban Geltaidd yn Iwerddon. Enillodd Gwenda'r gystadleuaeth honno hefyd gyda'r hudolus 'C�n i'r Ynys Werdd'. Yn 2003 cyhoeddodd Gwenda ei hunangofiant o dan y teitl Ymlaen �'r G�n, yn cynnwys manylion am ei brwydr ddewr yn erbyn cancr y fron.

http://www.gwendaowen.co.uk/

BOOKS BY THE AUTHOR

Ymlaen â'r Gân - Stori Gwenda Owen

- Gwenda Owen
£7.99 £3.00