Nesta Wyn Jones
Bardd, llenor a beirniad. Enillydd gwobr Cyngor y Celfyddydau ym 1987 am ei chyfrol o farddoniaeth Rhwng Chwerthin a Chrio. Ar ôl gadael Coleg Prifysgol Bangor bu'n gweithio yno ar y gyfres Gorwelion (llyfrau Project Cymraeg fel Mamiaith ar gyfer ysgolion uwchradd) ac yna gyda'r Cyngor Llyfrau Cymraeg yn Aberystwyth. Enillodd ysgoloriaeth deithio gan Gyngor y Celfyddydau ym 1976 ac eto ym 1991. Mae'n aelod o'r Academi Gymreig er 1970. Mae hi wedi cyhoeddi'n helaeth yn ystod y blynyddoedd, yn cynnwys cyfrolau megis Cannwyll yn Olau, Ffenest Ddu, Dyddiadur Israel, Rhwng Chwerthin a Chrio (Gomer, 1992), Dawns y Sêr (Gomer, 1999).