If ordering from outside of the UK you may need to pay duty and other handling fees on top of our carriage charges.
A picture of Manon Rhys

Manon Rhys

Ganed Manon Rhys yn Nhrealaw, Cwm Rhondda. Addysgwyd yn Ynyswen, Treorci, Ysgol y Porth, Y Rhondda, Ysgol Glan Clwyd, Y Rhyl a cholegau'r Brifysgol yn Aberystwyth a Chaerdydd. Mae'n awdur sawl nofel a chyfrol o straeon byrion, yn sgriptwraig cyfresi teledu poblogaidd megis Palmant Aur a Pobol y Cwm ac yn diwtor ysgrifennu creadigol. Am ddeng mlynedd bu'n cydolygu'r cylchgrawn llenyddol Taliesin. Cyrhaeddodd ei nofel Rara Avis restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2006. Yn 2011 enillodd y Fedal Ryddiaith am ei nofel Neb Ond Ni.


BOOKS BY THE AUTHOR

Ad Astra

- Manon Rhys
£8.99

Neb Ond Ni - Enillydd y Fedal Ryddiaith 2011

- Manon Rhys
£7.99

Cornel Aur

- Manon Rhys
£7.99

Rara Avis

- Manon Rhys
£8.99