If ordering from outside of the UK you may need to pay duty and other handling fees on top of our carriage charges.
A picture of Ena Thomas

Ena Thomas

Mae Ena Thomas yn byw yn Llangynnwr, Sir Gaerfyrddin, gyda'i gŵr Geoff. Er nad yw ei hiechyd yn caniatáu iddi fod mor weithgar ag y bu, mae'n dal i fwynhau cwmnïaeth teulu a ffrindiau, ac mae'n parhau i ymarfer ei sgiliau coginio sylweddol ac yn cael blas ar fywyd. Cododd Ena filoedd lawer o bunnoedd at achosion da dros y blynyddoedd, a bu'n aelod ffyddlon o Eglwys St Peter's yng Nghaerfyrddin ers iddi symud yno gyda'r teulu yn 1976. Bu'n weithgar hefyd gyda Chwmni Opera Ieuenctid Caerfyrddin am gyfnod hir, dan arweiniad Elizabeth Evans MBE. Mae gan Ena a Geoff ddau fab, Huw a Paul, a chwech o wyrion. Cyhoeddodd ei hunangofiant Blas ar Fywyd gyda Gwasg Gomer yn 2012.

BOOKS BY THE AUTHOR

Blas ar Fywyd Ena

- Ena Thomas, Catrin Beard
£9.99