Matthew Rhys
Ganwyd Matthew Rhys yng Nghaerdydd, ond mae'n byw nawr yn Los Angeles. Dyma un o actorion Hollywood a goncrodd y sgrin fach a'r sgrin fawr fel ei gilydd. Wedi graddio o RADA, bu'n un o sêr y gyfres deledu Americanaidd boblogaidd Brothers and Sisters, ac ef a chwaraeodd ran Dylan Thomas yn The Edge of Love yn 2008. Yn addas iawn, teitl ei ffilm ddiweddaraf yw Patagonia.