Phil Jones
Ganed Phil Jones yng Nghaerdydd a bu'n byw ger Aberystwyth er 1995. Arweiniodd ei ddiddordeb ef mewn ffotograffiaeth, a diddordeb ei wraig Sarah mewn darlunio, at nifer o gynlluniau sydd ynghlwm wrth fôr a thirwedd canolbarth Cymru. Cyhoeddwyd lluniau Phil Jones mewn nifer o gylchgronau ffotograffig ac yn Take a View - Landscape Photographer of the Year (Volume 2). Y mae hefyd wedi arddangos ei waith yng Ngheredigion ac yn arddangosfa Welsh Artist of the Year yng Nghaerdydd 2009.