Lowri Haf Cooke
Mae Lowri Haf Cooke yn byw ym Mhenylan yng Nghaerdydd. Hi yw awdur y blog poblogaidd Merch y Ddinas. Mae hefyd yn adolygydd ffilm ar wefan BBC Cylchgrawn, yn cyfrannu erthyglau i gylchgronau Barn a Taliesin, yn un o gyfranwyr blog Y Twll, ac yn adolygu bwytai i gylchgrawn Red Handed. Mae wrth ei bodd yn casglu celf o Gymru, yn ffan mawr o gerddoriaeth a'r theatr, ac yn dwlu ar deithio rhyngwladol. Yn 2011 cafodd ei derbyn i Raglen Ddatblygu Beiriniaid Celf Cymru dan ofal Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.