Angharad Edwards
Mae gwreiddiau ei theulu'n ddwfn yn ardal Aberystwyth, ac yno y cafodd ei geni a'i magu. Er iddi dreulio chwe blynedd yn ardal Bae Colwyn, mae bellach wedi ymgartrefu'n ôl yng Ngheredigion gyda'i gŵr a'u dwy ferch. Mynychodd ysgol Penweddig, Aberystwyth ac enillodd radd B.A. Cydanrhydedd mewn Cymraeg a Chrefydd o Goleg y Drindod, Caerfyrddin. Ar hyn bryd, mae'n gweithio fel Ysgrifenyddes i'r Adran Cymraeg i Oedolion ym Mhrifysgol Aberystwyth.