If ordering from outside of the UK you may need to pay duty and other handling fees on top of our carriage charges.
A picture of Eurgain Haf

Eurgain Haf

Ganed a magwyd Eurgain Haf ym Mhenisarwaun yng Ngwynedd ond erbyn hyn mae hi wedi ymgartrefu ym Mhontypridd. Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Uwchradd Brynrefail a Phrifysgol Aberystwyth. Wedi cyfnod yn gweithio fel Swyddog y Wasg i S4C mae hi nawr yn gweithio rhan-amser fel Swyddog y Cyfryngau i elusen Achub y Plant ac yn ysgrifennu yn ei hamser sb�r. Enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd yn 1994 a Choron Eisteddfod M�n yn 2002. Enillodd Fedal Ddrama yr Eisteddfod Ryng-golegol yn 1994 a pherfformiwyd drama fer o'i heiddo - Cadw Oed -fel rhan o gynhyrchiad teithiol Sgript Cymru, Drws Arall i'r Coed yn 2005. Roedd yn un o'r rhai a ddaeth i'r brig yng nghystadleuaeth ysgrifennu stori fer y BBC yn 2003 a chyhoeddwyd ei stori yn y gyfrol Nes at Baradwys (Gwasg Carreg Gwalch, 2005). Roedd hefyd yn un o griw o awduresau a ddaeth at ei gilydd i gyhoeddi'r nofel gywaith Nerth B�n Braich (Gwasg y Bwthyn, 2008). Ond dil�it pennaf Eurgain yw ysgrifennu stor�au i blant a chyhoeddwyd ei nofel gyntaf Fferm Ffion (Gwasg y Dref Wen) yn 2005 ac yna Stablau Seren yn 2006. Mae hefyd wedi cyhoeddi cyfres o bedair nofel fer yn dilyn anturiaethau crwydryn o'r enw Siencyn a'i gi bach teircoes, Dan Draed (Gwasg y Dref Wen). Mae hefyd yn cyfrannu straeon byrion yn gyson i gylchgrawn yr Urdd, Cip.

BOOKS BY THE AUTHOR

Cyfrinach Noswyl Nadolig

- Eurgain Haf
£5.99

Y Boced Wag

- Eurgain Haf
£4.99