Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Yr Ewros ac Aaron Ramsey yn ysbrydoli Manon Steffan Ros

Gyda’r Ewros ar fin dechrau mae’r awdures arobryn Manon Steffan Ros yn cyhoeddi nofel newydd gyda phêl-droed yn ganolog iddi. Dyma’r ail nofel iddi ysgrifennu am y bêl gron yn dilyn llwyddiant Fi a Joe Allen. Y tro hwn Aaron Ramsey sy’n cael y lle canolog, ac mae’r awdures sydd wrth ei bodd â phêl-droed yn awchu i’r Ewros ddechrau.

Meddai Manon Steffan Ros:

“Rwy methu aros i’r Ewros ddechrau! Dwi wedi bod yn gwylio hen fideos o Ewro 2016, ac mae o’n fy llenwi efo ffydd a chyffro! Wrth edrych ar dîm pêl-droed, mae rhywun yn gweld fod gan bob chwaraewr ei gryfderau ei hun a’i bersonoliaeth unigryw, ac ar y pethau hynny dwi’n cael y syniadau am y nofel. Mae ’na gymaint i’w edmygu a’i licio am Rambo.”

Mae Fi ac Aaron Ramsey yn ymwneud â Sam, sydd ag obsesiwn â phêl-droed, yn enwedig ag Aaron Ramsey. Mae Sam yn dueddol o boeni am bopeth, yn ei fywyd personol ac ar y cae, ond drwy bêl-droed mae Sam yn ymdopi’n well gyda’i orbryder. Mae’r nofel yn dangos pwysigrwydd siarad am eich teimladau a rhannu pryderon. Mae pêl-droed yn bwysig i’r teulu i gyd, ond mae eu perthynas â’r gêm yn cael ei brofi i’r eithaf gan un digwyddiad erchyll.

Dyma’r ail nofel gan Manon Steffan Ros ar gyfer yr arddegau cynnar sydd â phêl-droed yn ganolbwynt iddi. Enillodd ei nofel blaenorol, Fi a Joe Allen Wobr Tir na n-Og yn 2019.

“Ro’n i wrth fy modd fod pobol wedi mwynhau Fi a Joe Allen, achos mi wnes i fwynhau sgwennu’r nofel honno’n fawr. Mae pêl-droed yn hyfryd ac yn bwerus ac yn ffordd dda o greu cysylltiadau efo pobol eraill. Mae hi wastad yn braf cael sgwennu am rywbeth dach chi’n mwynhau!” meddai Manon, gan ychwanegu, “Mae hefyd yn bwysig fod pawb yn teimlo bod ’na gymeriadau mewn llyfrau, yn Gymraeg ac mewn ieithoedd eraill, sy’n debyg iddyn nhw. Dwi’n meddwl fod pawb yn poeni ond efallai nad ydan ni’n siarad nac yn sgwennu am y peth yn aml, ac felly mae’n anodd trafod y peth. Y gwir ydi, mae poeni yn beth cyffredin iawn, ac mae ’na lawer o bethau sy’n gallu helpu.”

Mae galw mawr am nofelau i bobl ifanc yn gyffredinol, a hyd yn oed mwy o alw am nofelau am bynciau fel pêl-droed. Yn ôl Bethan Gwanas (yn ysgrifennu ar ei blog am Fi a Joe Allen),

“Mae gwir angen nofel wreiddiol fel hon ar y byd llyfrau, ac os oes gynnoch chi blentyn sy’n gwrthod neu’n casáu darllen oherwydd fod yn well ganddo/ganddi chwarae pêl-droed, dwi wir yn meddwl y gallai hon wneud gwahaniaeth.”

“Rwy’n gobeithio fydd yna mwy o lyfrau tebyg i ddod – mae ’na ysbrydoliaeth yn dod o bêl-droed o hyd, felly dwi’n croesi bysedd y bydd pobol eisiau mwy o straeon am ffwti!” meddai Manon.