Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Y Selar - digwyddiad dirgel yng nghartref llyfrau enwcoaf Cymru

Bydd un o frandiau pobl ifanc amlycaf Cymru yn lansio eu llyfr cyntaf mewn digwyddiad dirgel yng nghartref llyfrau enwocaf Cymru, o dan y teitl amwys ‘Seiat yn Y Selar’.

Bydd y digwyddiad dirgel yn cael ei gynnal yn selar Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn nhref Aberystwyth am 8 o’r gloch, nos Iau y 7fed o Ragfyr gyda gwestai arbennig yn cynnwys Yws Gwynedd.

Bydd modd i lond llaw o bobl lwcus fynychu’r digwyddiad yn dilyn cystadleuaeth ar-lein a bydd modd i bawb arall wylio’r digwyddiad yn fyw ar y we.

‘Y syniad ydy bod y lansiad yn un digidol yn bennaf, a hynny ar ffurf darllediad Facebook Live gan roi cyfle i lwyth o bobl fod yn rhan o’r peth’ meddai Owain, ‘Wrth gwrs, mae’n rhaid cael rhywbeth i’w ddarlledu, felly rydan ni’n cynnal digwyddiad bach eithaf dirgel yn Aberystwyth, gyda chyfle i nifer fach o bobl ennill ‘tocyn aur’ i fod yno.’

‘Gobeithio bydd natur ddirgel y digwyddiad yn magu chwilfrydedd ac yn denu pobl i wylio’r darllediad byw’ ychwanegodd.

Bydd y digwyddiad yn ymwneud yn rhannol â chyfrol newydd sbon Y Selar a gyhoeddir yr wythnos hon.

‘Mae’r lleoliad a chynnwys y lansiad yn cysylltu’n agos â’r llyfr – bydd nifer o gyfranwyr ac eitemau bach sy’n cyd-fynd â natur y gyfrol a gobeithio bydd unrhyw un sy’n ymddiddori yn y sin yn mwynhau’r arlwy!’ ychwanegodd Owain.

Cyfrol lliwgar i ddathlu cyffro’r sîn roc Gymraeg gyfoes, yw Llyfr Y Selar. Mae’n cynnwys detholiad o erthyglau a chyfweliadau difyr ynghyd ag adolygiadau o rai o albyms a nosweithiau gorau’r flwyddyn. Golygwyd gan Owain Schiavone.

‘A ninnau wedi cyhoeddi hanner can rhifyn o gylchgrawn “Y Selar”, roedd hi’n hen bryd cyhoeddi llyfr hefyd,’ meddai Owain, ‘Mae’r syniad ynglŷn â’r gyfrol yn un sydd wedi bod yng nghefn y meddwl ers blynyddoedd felly mae’n grêt i weld y weledigaeth yn dwyn ffrwyth.’

‘Mae miloedd o bobl yn darllen cylchgrawn Y Selar, sy’n adlewyrchu bywiogrwydd y sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes ar hyn o bryd ond mae cylchgrawn yn rywbeth dros dro rhywsut, sy’n cael ei ddarllen unwaith ai roi yn y bin ail-gylchu,’ eglurodd Owain, ‘Ro’n i’n teimlo bod angen rhywbeth mwy parhaol i grynhoi a chofnodi y cyfnod cyffrous yma i’r sin – rhywbeth i rywun gadw ar y silff a throi nôl ato mewn blynyddoedd i ddod.’

Y gobaith yw bydd y gyfrol yn dilyn traddodiad o blwyddlyfrau tebyg fel cylchgrawn Sgrech o’r 1980au.

‘Dwi’n cofio pethau fel ‘Shoot Annual’ (y cylchgrawn pêl-droed ‘Shoot’) a’r Smash Hits Yearbook pan o’n i’n iau, a dwi hefyd yn dwyn dylanwad o rywbeth fel Blwyddlyfr Sgrech a gyhoeddwyd sawl gwaith yn nechrau’r 1980au.’ meddai.

Does dim amser gwell i gyhoeddi’r llyfr yn ôl Huw Stephens.
 
‘Mae’r sin yn iach ac yn ddifyr achos y cerddorion, yr hyrwyddwyr, y labeli a’r rhaglenni, y cynhyrchwyr, y rheolwyr, y bobl sain a’r teuluoedd sy’n cefnogi,’ meddai Huw, ‘Ac mae pob elfen yma o’r sin yn cwympo’n deilchion heb gefnogaeth y llall.’

Mae Y Selar bellach yn un o frandiau pobl ifanc amlycaf Cymru diolch i hirhoedledd a phoblogrwydd y cylchgrawn cerddoriaeth chwarterol, a llwyddiant gweithgareddau fel Gwobrau’r Selar a Chlwb Senglau’r Selar.

Bydd y digwyddiad dirgel yn cael ei gynnal am 8 o’r gloch nos Iau 7 o Ragfyr mewn lleoliad dirgel yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yng nghwmni Yws Gwynedd, Owain Schiavone a gwestai arbennig eraill. Bydd y digwyddiad yn cael ei ddarlledu’n fyw drwy Facebook Live ar dudalen Y Selar mewn cydweithrediad â Hansh (S4C).