Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Trosedd go iawn yn ysbrydoli nofel dywyll newydd Llwyd Owen

Mae un o nofelwyr mwyaf blaengar a chyfoes Cymru yn cyhoeddi nofel newydd dywyll yr wythnos hon – ei stori orau eto ym marn awduron blaenllaw.

Mae Llwyd yn adnabyddus am ei gyfrolau tywyll ac mae’n nodi tair ffynhonnell o ysbrydoliaeth ar gyfer y nofel hon, yn cynnwys digwyddiad erchyll herwgipiad a llofruddiaeth April Jones trwy law Mark Bridger yn 2012. Meddai Llwyd:

"Fe gafodd y drosedd erchyll yna gryn argraff arna i, yn yr un modd ag y gwnaeth ar weddill y wlad, yn ogystal ag ymateb y wasg i’r digwyddiadau - y tyrru a fu i un man, a'r ffordd y cafodd yr hanes ei adrodd yn y tabloids."

Yn ail, fe daniwyd ei ddychymyg gan y profiad diniwed o fwynhau gwyliau teuluol yn Bluestone, Sir Benfro:

"Roedd fy nychymyg yn rhedeg yn wyllt wrth feddwl am gymuned gudd a phreifat, a'r erchyllterau posibl sy'n digwydd tu ôl i ddrysau'r cabanau pren."

Y drydedd mewn triawd o ysbrydoliaeth oedd diffygion cyffredin y ddynol ryw, sydd yn thema gyson yn nofelau Llwyd, felly yn ogystal â chynnig stori gyffrous tu hwnt mae Pyrth Uffern yn astudiaeth o ddyn cyffredin:

"Nid arch-dditectifs yw DS Price a DS King, ond dynion normal sy'n poeni am eu teuluoedd, sy'n yfed gormod ac sy'n gwneud camgymeriadau yn eu gwaith.”

Mae Pyrth Uffern eisoes wedi derbyn canmoliaeth uchel gan rai o awduron eraill mwyaf amlwg Cymru, wrth i Manon Steffan Ros ei ddisgrifio’r nofel fel “fy hoff nofel gan Llwyd Owen. Dychrynllyd, real, gwych” a Dewi Prysor yn cyhoeddi ei bod yn “gampwaith o nofel afaelgar. Fydd hi ddim yn gollwng ei gafael ynddoch am ddyddiau wedi ei darllen”.

Mae Pyrth Uffern yn dychwelyd i ardal ddychmygol o Gerddi Hwyan gyda DS Rolant 'Rol' Price yn gymeriad canolog y tro yma. Mae yna ddwy brif stori - yr un cyntaf yn dilyn Rol wrth iddo fynd ar drywydd  troseddwr rhyw a llofrudd sy'n ysbeilio ar merched ifanc iawn. Yr ail, yn dilyn ei ymdrechion i wella o'r anafiadau a gafodd wrth geisio dwyn yr achos i ben, a hynny trwy ddianc i gymuned breifat ar lan y môr yng ngorllewin Cymru.

Gyda nifer o gymeriadau Gerddi Hwyan yn ymddangos mewn sawl nofel, er enghraifft, Danny Finch, sef seren Taffia, yn chwarae rhan ymylol yn Mr Blaidd a Heulfan, mae Llwyd yn gweld posibilrwydd cryf y bydd Rol a’i wraig Lowri yn dychwelyd rhywsut eto yn y dyfodol.

"Mae'r rhyddid sy'n dod gyda Gerddi Hwyan yn golygu na fyddaf fyth yn blino ar ysgrifennu nofelau sydd wedi'u lleoli yno."

Ynghyd â Pyrth Uffern mae Llwyd wedi ysgrifennu drama ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Fe fydd hefyd yn actio yn Rhybudd: Iaith Anweddus, a gyfarwyddwyd gan Hanna Jarman, ar brynhawn Mercher 8fed o Awst.

Mae gan yr awdur prysur #Podlediad o’r enw Does dim Gair Cymraeg am Random ble y gellir ei glywed yn trafod y byd a’i bethau gyda chymeriadau eraill, e.e. y comedïwr Elis James, ac mae nofela a nofel arall ar y gweill hefyd.