Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Taclo bwlio, hiliaeth a jiráff sydd ag ofn uchder!

Mae nofel newydd Casia Wiliam, sydd wedi’i hanelu at blant 7 i 11 oed, yn gam i’r cyfeiriad cywir o ran llenyddiaeth Gymraeg yn adlewyrchu Cymru fodern, gynwysiedig. Mae’r nofel yn delio gyda themâu fel bwlio oherwydd bod y prif gymeriad yn hil cymysg. Mae Sw Sara Mai yn dilyn Sara Mai, sy’n 9 oed, wrth iddi geisio deall ei chyfoedion ym Mlwyddyn 5 cystal ag y mae’n deall yr anifeiliaid yn sw ei mam.

Meddai Casia Wiliam:

“Mae mor, mor bwysig bod ein llenyddiaeth yn adlewyrchu ein cymdeithas ni yng Nghymru heddiw, er mwyn i bob plentyn fedru adnabod eu hunain mewn llyfr. Rydw i wedi bod yn meddwl ers tro bod angen mwy o amrywiaeth o fewn llenyddiaeth plant, ac yn arbennig hefyd bod angen i’r prif gymeriad fod o gefndir cymysg, nid dim ond yn gymeriad ymylol. Roeddwn i’n awyddus i drafod hiliaeth mewn nofel, heb i  hynny deimlo fel ‘gwers’ fel petai.

Mae Sara Mai yn cael trafferth gyda’r plant yn ei dosbarth, ac mae llawer yn well ganddi helpu i lanhau ar ôl yr anifeiliaid na mynd i’r ysgol.

“Mae sawl neges yn y nofel: nid yw hiliaeth yn dderbyniol; mae pawb angen ffrind ac mae’n bwysig dal ati a dal i gredu. Er bod ambell i thema ddwys yn y nofel – fel bwlio a hiliaeth – nid dyma brif thema’r stori, ac mae digon yma i wneud i’r darllenwyr ifanc chwerthin – gobeithio!”

Mae’r nofel yn llawn digwyddiadau ffraeth, fel dyfodiad y jiráff newydd sydd ag ofn uchder a Llywelyn Fawr, arth yr Andes sydd newydd gyrraedd y sw ac yn cael trafferth setlo yn ei gynefin newydd, ac mae’r cymeriadau yn amrywiol ac yn ddiddorol, fel Zia sydd yn gweithio yn nerbynfa’r sw, James a’i het bompom a Leila’r bwli.

Daeth yr ysbrydoliaeth i Casia pan oedd hi’n fardd plant Cymru ac yn ymweld ag ysgolion ledled y wlad. Meddai: 

“Gwnes i gyfarfod â merch fach mewn ysgol oedd yn annwyl tu hwnt ac yn gwirioni ar anifeiliaid, ac mi ddywedodd wrtha i – “Mae Mam yn dweud bod gen i gysylltiad arbennig gydag anifeiliaid.” A dyma fi’n meddwl – rydw i am dy roi di mewn llyfr! Rydw i wir yn gobeithio y bydd plant yn hoffi’r llyfr – er mwyn i Sara Mai gael sawl antur arall!”