Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Straeon antur y Mormoniaid Cymreig a groesodd y Gorllewin Gwyllt

Pwy oedd y 5,000 o arloeswyr o Gymru a deithiodd i'r Gorllewin Gwyllt yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg?

Yn Poeri i Lygad yr Eliffant: Anturiaethau'r Saint Cymreig yn y Gorllewin Gwyllt gan Wil Aaron - cyfrol newydd a gyhoeddi yr wythnos hon gan wasg Y Lolfa, fe gawn am y tro cyntaf ymuno â siwrne gyffrous y miloedd o Formoniaid Cymreig a groesodd y paith mewn wageni yn yr ugain mlynedd cyn dyfodiad y trên ym 1869. Ffoi roeddent oddi wrth eu herlidwyr yn y Dwyrain i Ddinas y Llyn Halen – eu dinas sanctaidd yn y Rockies.

Tybir bod rhwng 4,000 a 5,000 o Formoniaid Cymreig wedi cyrraedd Dyffryn y Llyn Halen yn y blynyddoedd hynny – nifer bychan, efallai, o'u cymharu â'r 60,000 o Gymry a ymfudodd i weddill America yn yr un cyfnod, ond dwy i dair gwaith mwy na'r nifer a aeth i Batagonia.

Rhan o'u dyletswydd grefyddol oedd cadw dyddiaduron, ac mae cannoedd o'r dogfennau hyn wedi eu cadw yn archif yr Eglwys yn Ninas y Llyn Halen. Bu Wil Aaron yn ymchwilio yn y ffynhonnell gyfoethog hon o brofiadau'r ymfudwyr cynnar. Darllenai'r straeon antur bron fel chwedlau a'r rheiny wedi eu seilio ar hanes go iawn, ac fel pob stori antur dda mae yna ddewrder ac ofn, cynnwrf a thorcalon ar hyd y daith gofiadwy hon.

Roedd yr ymfudwyr yn croesi'r Gorllewin Gwyllt ar adeg arbennig o gynhyrfus yn hanes America. Gwelsant gychwyn y rhyfeloedd yn erbyn yr Indiaid ddaeth i ben ddegawdau wedyn ym mrwydrau Little Bighorn a Wounded Knee. Pasiwyd hwy gan y 'Pony Express'. Gwelsant y telegraff cyntaf yn croesi'r cyfandir. Pasiwyd hwy gan y goetsh fawr gyntaf. Gwelsant y rheilffordd yn ei dilyn. A chofnododd y Mormoniaid y pethau hyn i gyd.

Cydgerddent hefyd â'r '49ers', y mwynwyr hynny a gymerodd ran yn y rhuthr am aur i Galiffornia ym 1849 a 1850. Daw teitl y llyfr o un o'u dywediadau hwy. Yn eu gwersylloedd unig, ysgrifennent eu bod yn clywed 'trwmpedau'r eliffant' yn y nos, yn gymysg ag udo dolefus y bleiddiaid. Neu pan ruthrai gyr o fyfflo heibio yn beryglus o agos i'w wageni, dywedent eu bod wedi clywed sŵn 'yr eliffant yn pasio'. Ymgorfforiad oedd yr eliffant o beryglon y paith. Dim ond y dewr fyddai'n 'edrych i wyneb yr eliffant', a dim ond y dewraf o'r dewr feiddiai 'boeri i'w lygad'.

Yn gefndir i'r cyfan mae'r ddaearyddiaeth – afon Missouri, yna tiroedd glaswelltog, gwyrdd y Prairies yn ymestyn dros 200 milltir i'r gorllewin a thu hwnt iddynt hwythau y Gwastatir Mawr a mynyddoedd y Rockies, yn ymestyn fil o filltiroedd ymhellach. Ac ar ben draw eithaf y mynyddoedd y mae Dyffryn y Llyn Halen. Yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, dyma diriogaeth 'yr eliffant'.

'Llyfr yw hwn am ddynion a merched, llawer ohonynt yn Gymry, a edrychodd i wyneb yr 'eliffant', heb ofn, a phoeri i'w lygad,' meddai Wil Aaron.

Mae Wil Aaron yn arloeswr ei hun, a hynny ym myd teledu, fel cyfarwyddwr a chynhyrchydd annibynnol a sefydlydd cwmnïau teledu ac adnoddau dylanwadol. Ffurfiodd gwmni teledu Ffilmiau'r Nant ym 1976, y cwmni a gynhyrchodd raglenni fel Hel Straeon, Sgorio a C'mon Midffîld i S4C.

Ei ddiddordeb brwd yn ymfudiad y Mormoniaid Cymreig i'r Gorllewin Gwyllt fu'r ysgogiad pennaf ar gyfer cyhoeddi'r gyfrol hon.

'Ychydig a wyddom ni yng Nghymru heddiw am hanes ein brodyr yn Utah, ac ychydig a ysgrifennwyd amdanynt,' ychwanegodd Wil.

'Nid yw'r rheswm am hyn yn anodd ei ganfod. O'r cychwyn, bu gelyniaeth ffyrnig rhwng y Mormoniaid a'r capeli anghydffurfiol Cymreig. Pan adawsant Gymru yn eu miloedd yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, tueddwyd i'w hanghofio'n syth a'u dileu o'n hymwybod,' meddai.

'Ond mae eu stori yn werth ei hadrodd ac yn haeddu lle anrhydeddus yn hanes ein gwlad,' ychwanegodd.