Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Stori annibyniaeth Croatia'r 90au a'r cymariaethau â Chymru gyfoes yn ysbrydoli nofel

 Chymru’n profi twf mewn cefnogaeth i annibyniaeth, dyma nofel sydd â rhyfel a gwarchae ar Dubrovnik yn gefnlen iddi. Mae Perl gan Bet Jones yn stori serch wedi’i osod yn ôl yn haf 1990, yr haf pan roedd cymylau bygythiol yn dechrau crynhoi ar y gorwel fyddai’n arwain at ryfel annibyniaeth yng Nghroatia ac yna Croatia annibynnol.

Yn ystod cyfnod Y Clo Mawr, gwelwyd cynnydd yng nghefnogaeth i Gymru annibynnol – byddai 32% o’r boblogaeth yn pleidleisio dros annibyniaeth ym mis Mehefin – 5% yn uwch nag oedd y ffigwr ym mis Ionawr (ffigyrau ddim yn cyfri y sawl sydd ddim yn gwybod neu fyddai ddim yn pleidleisio). Mae’n amserol felly bod Perl yn dilyn taith gwlad arall i gyrraedd yr un nod. Bydd canran o arian gwerthiant y nofel yn mynd i ymgyrch Yes Cymru.

Meddai Bet Jones:

“Wrth fynd ati i ysgrifennu’r nofel, roeddwn yn ymwybodol fod y diddordeb mewn annibyniaeth i Gymru yn cynyddu gydag ymgyrchoedd fel Cofiwch Dryweryn a Yes Cymru ac roeddwn yn awyddus i ddod â pheth o hynny i mewn i’r stori yn ogystal â bygythiad Brexit i’n perthynas â gwledydd Ewrop i’r dyfodol.”

Yn ôl yn haf 1990, ychydig feddyliodd Nia, un o brif gymeriadau’r nofel, y byddai ei phenderfyniad i fynd ar ei gwyliau i Iwgoslafia yn cael effaith bellgyrhaeddol ar weddill ei bywyd hi a’i theulu. Yng nghanol y berw, daw un cyfarfyddiad â goblygiadau aruthrol i deuluoedd o Groatia i Gymru. Yn gefnlen i’r stori bersonol, mae hanes sut y gwaethygodd pethau rhwng y Serbiaid a’r Croatiaid yn ystod y cyfnod hwnnw a sut y datblygodd y sefyllfa yn rhyfel erchyll.

Mae gan Bet Jones ddiddordeb ysol yn hanes Croatia ac mae wedi ymweld â’r wlad sawl gwaith dros y blynyddoedd diwethaf. Yn ogystal mae wedi darllen sawl llyfr am hanes Rhyfel y Balcans a chwymp Iwgoslafia. Ond cyfaddefa Bet nad oes dim fodd bynnag yn paratoi rhywun at “y golygfeydd trawiadol o sgerbydau hen westai oedd wedi eu gadael i ddirywio ar hyd yr arfordir o amgylch Dubrovnik ers cyfnod y rhyfel.”

Manyla ar yr ysbrydoliaeth tu ôl i’r nofel: “Pan ddaeth cyfle i fynd i fyny i’r amgueddfa sy’n cofnodi hanes gwarchae Dubrovnik sydd wedi ei leoli yn yr union adeilad uwchben y ddinas, lle bu’r llond llaw o warchodwyr yn gwrthsefyll yr ymosodiadau, fe gynyddodd fy niddordeb. Er i mi gael yr hanes yn fras gan ambell i dywysydd, doeddwn i ddim yn teimlo y gallwn dramwyo drwy holi pobl leol am eu hatgofion a’u profiadau o’r rhyfel. Yna, yn ystod un ymweliad â phentref bychan Čilipi roeddwn wrthi’n darllen plac yn yr eglwys oedd yn adrodd hanes ymosodiad lluoedd Serbia a Montenegro ar y lle, pan ddaeth gwraig leol ganol oed ataf a gofyn a fuaswn yn hoffi clywed mwy o’r hanes. Awr yn ddiweddarach, gadewais yr eglwys a fy mhen yn llawn o’i disgrifiadau o’i phrofiadau dirdynnol a gwyddwn fod yn rhaid i mi geisio ail adrodd ei hanes. Dim ond gobeithio nad wyf wedi gwneud cam â hi!”