Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Robin Llywelyn yn cyhoeddi ei lyfr cyntaf ers tair mlynedd ar ddeg

Mae’r awdur dawnus Robin Llywelyn ar fin cyhoeddi ei gyfrol newydd, Cerdded Mewn Cell – ei lyfr cyntaf o ryddiaith ers 2004, pan enillodd wobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

 

Mae Robin Llywelyn yn adnabyddus am ei ddychymyg rhyfeddol, ac mae wedi ennill nifer fawr o wobrau am ei ysgrifennu llachar ac arbrofol.

 

Mae Cerdded Mewn Cell yn cael ei gyhoeddi’r wythnos yma gan Y Lolfa - casgliad o dair ar ddeg o straeon byrion ffraeth a gogleisiol.

 

“Teimlais ei bod hi’n bryd imi lunio cyfrol gan fy mod i wedi sgwennu llyfr yn y 1990au a’r 2000au a dyma ninnau yn y 2010au a finnau heb wneud dim byd o’r fath!” meddai Robin Llywelyn, sydd hefyd yn Reolwr Gyfarwyddwr cwmni Portmeirion Cyf.

 

“Dwi wrth fy modd yn clywed Robin Llywelyn yn canu eto,” meddai Dr Sioned Puw Rowlands, golygydd y cylchgrawn llenyddol O’r Pedwar Gwynt.

 

Mae’r gyfrol yn esiampl dda o waith yr awdur gyda’r straeon yn gyfuniad o’r hen a’r newydd, yn fywiog, yn wreiddiol ac yn annisgwyl, yn dyner ac yn drist. Daw’r teitl o stori am ddyn sydd wedi ei garcharu ar gam wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth ar ei noson gyntaf mas gyda’i wraig ers geni eu mab. Mae’r llyfr yn cychwyn gyda chyflwyniad gogleisiol i weithwyr Llygad y Dydd, papur newydd dyddiol cyntaf Cymru ar gael ‘ar draws eich dyfeisiau neu yn eich llaw’. Ceir elfennau chwareus wrth i rai o’r cymeriadau hynny ymddangos mewn storïau eraill fel y sgwrs rhwng dau Gynghorydd sy’n hen gyfeillion ac wedi’u haileni’n gimychiaid, a cheir adolygiad o noson ym mwyty Auberge de Ruztan yng Nghwm Gwendraeth ble does dim byd ar y fwydlen ar gael.

 

Dywedodd Robin Llywelyn:

“Mae rhai straeon yn ysgafn ac ysmala ac ychydig yn fwy difrifol. Does dim ymgais i greu neges na phregeth yma ond os ceir difyrrwch ohonynt bydd eu hamcan wedi ei wireddu,” ychwanegodd.

 

Mae’r awdur wedi ennill gwobrau niferus, gan gynnwys y Fedal Ryddiaith (Seren Wen ar Gefndir Gwyn yn 1992 ac O’r Harbwr Gwag i’r Cefnfor Gwyn yn 1994), Llyfr y Flwyddyn (Seren Wen ar Gefndir Gwyn yn 1992), Awdur y Flwyddyn y BBC yn 1994 a Gwobr Goffa Daniel Owen (Un Diwrnod yn yr Eisteddfod yn 2004).

 

“Rwy’n meddwl bydd y gyfrol yn apelio at ddarllenwyr Cymraeg rhwng 10 a 90 oed sydd heb fod yn biwritaniaid, Toriaid na mesyns.”