Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

O alwadau Meibion Glyndwr i alcoholiaeth: perygl a sbri 'oes aur' newyddiaduriaeth

Mae’r newyddiadurwr Alun Lenny yn hel atgofion am rai o straeon mawr ‘oes aur’ newyddiaduriaeth, sef yr oes ar drothwy symud o ffilm i’r oes ddigidol, yn ei hunangofiant newydd Byw Ffwl Pelt. Mae’r gyfrol ddifyr yn sôn am y rhuthr dyddiol byd casglu newyddion: y peryglon a’r sbri, y dwys a’r digri, a’r effaith niweidiol gafodd blynyddoedd o brysurdeb wrth gyflawni ‘y wyrth fach ddyddiol’ o fachu stori i’w darlledu i’r genedl ar y gohebydd talentog hwn.

Am 33 mlynedd bu Alun Lenny’n dyst i ddigwyddiadau mawr a mân yn ein cornel ni o’r byd, ac yn y byd mawr tu hwnt. Meddai: “Rhaid mai’r 1980au oedd Oes Aur casglu newyddion yng Nghymru. Roedd bron bob dydd yn rhuthr gwyllt o fyw ar yr hewl ac ar adrenalin.”

Mae Byw Ffwl Pelt yn ail-fyw rhai o straeon mwyaf yr ugeinfed a’r unfed ganrif ar hugain, ac wedi’i ysgrifennu mewn arddull newyddiadurol, gyda phob pennod yn gyfle i glywed stori newydd gyffrous.

Yn ystod ei yrfa, fe wnaeth Alun Lenny ddarlledu’n fyw o burfa olew oedd ar dân ac mewn perygl o ffrwydro eto unrhyw funud, mynd gyda milwyr o Gymru i hela tyfwyr cyffuriau trwy’r jyngl yng nghanolbarth America a sgwrsio gyda Jimmy Carter, cyn-arlywydd America mewn capel yng Nghymru, ynghyd â ffeindio ei hun yng nghanol y stori pan ddechreuodd dderbyn galwadau ffôn ganol nos gan Feibion Glyndŵr a bron â chael damwain car gyda’r Tywysog Siarl.

Erbyn canol y 1990au, roedd effaith y prysurdeb yn dechrau dangos, ac yn cael effaith ddifrifol ar ei iechyd. Fe aeth yn gaeth i alcohol a thabledi’r meddyg ac yng ngeiriau Alun: “bu’r cyfan bron â’m lladd.”

Mae Byw Ffwl Pelt hefyd yn trafod ei wellhad a’i dröedigaeth ysbrydol, ac yn sôn yn helaeth am ei brofiad o weithio i’r BBC – y da a’r drwg – cyn gadael y BBC yn 2007, a’i yrfa newydd yn gweithio i Undeb yr Annibynwyr Cymraeg fel Swyddog y Wasg.

Mae’r hunangofiant di-flewyn-ar-dafod hefyd yn disgrifio salwch difrifol ei ferch Mared, sef yr artist Swci Delic. Yn 2010 cafodd Mared y newyddion bod ganddi diwmor yn ei hymennydd a bu’r driniaeth frys a’r cyfnod a ddilynodd yn amser anodd iawn i’r teulu. Meddai Alun: “Fe aeth ein byd ar chwâl.” Er y stormydd, mae Alun yn falch iawn o’r ffaith bod Ann ac yntau’n agos iawn i Rhun a’i deulu ac i Mared a’i gŵr Alex – yn ddaearyddol ac o ran eu perthynas.