Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Nofel sy'n herio'r bondigrybwyll Bond i grybwyll yr oes newydd

Yr wythnos hon cyhoeddir nofel antur gyfoes gan yr awdur poblogaidd Daniel Davies. Mae Pedwaredd Rheol Anhrefn yn ddilyniant hirddisgwyliedig i Tair Rheol Anhrefn, a enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro yn 2011, ac yn trafod rhai o ddilemas mawr defnyddio technoleg newydd wrth warchod a diogelu.


Cafodd Tair Rheol Anhrefn adolygiadau gwych, gydag Elin Llwyd Morgan yn ei disgrifio fel nofel “afaelgar gan awdur sy’n gwybod sut i gyflwyno chwip o stori”, ac Emyr Llywelyn yn ei alw’n “nofel soffistigedig, gyfoes a llawn hiwmor gan nofelydd sy’n storïwr wrth reddf.”

 

Mae Pedwaredd Rheol Anhrefn yn nofel gyfoes ffraeth â llinyn storïol cryf. Mae’n parhau gyda stori Dr Paul Price a’i gariad Llinos Burns, ond yn sefyll ar ei thraed ei hun.

“Mae’r stori’n ymwneud â chyfrifoldeb gwyddonwyr o ran eu damcaniaethau a’r ffordd mae eu syniadau’n cael eu defnyddio gan wleidyddion wrth i’r ddwy garfan ffurfio cytundeb Ffawstaidd sy’n cael effaith andwyol ar ddinasyddion,” meddai Daniel Davies.

Mae’r antur gyffrous yn dilyn Dr Paul Price a Llinos Burns wrth iddyn nhw geisio dianc rhag yr heddlu cudd a brwydro â’u cydwybod ynglŷn â’r cwestiwn o greu drôns.

Mae’r nofel yn thriller comig sy’n ceisio ymdrin â’r byd fel ag y mae. Mae’n stori garlamus sy’n tywys y cymeriadau ar wib ar draws Prydain ac Ewrop, gan ddychanu agwedd imperialaidd masnachfraint James Bond. Mae hefyd yn ymdrin â’r tensiynau gwleidyddol sy’n bodoli rhwng Prydain, Ewrop a Rwsia ar hyn o bryd,” meddai’r awdur.

 

Mae Daniel wrthi’n ysgrifennu ei nofel nesaf yn barod a fydd yn ymdrin ag anturiaethau’r bardd Dafydd ap Gwilym yng Nghymru’r 1340au.

 

Y gobaith yw cyhoeddi’r nofel erbyn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron pan fyddwn yn dathlu 700 mlynedd ers genedigaeth Eos Dyfed,” meddai Daniel.