Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Nofel ddirgelwch gan awdur newydd wedi'i hysgrifennu mewn arddull Sgandi noir

Mae’r genre Sgandi-noir yn boblogaidd iawn gyda darllenwyr a gwylwyr yn fyd-eang erbyn hyn. Yr wythnos hon cyhoeddir Ar Drywydd Llofrudd, nofel dditectif gyfoes a thywyll gan awdur newydd, Alun Davies.

 

Yn y nofel mae yna gorff yn cael ei ddarganfod yn y twyni ym Mhenbre – achos sy’n dod i sylw dau dditectif, Taliesin ac MJ, wrth iddynt fynd ar drywydd llofrudd.

 

“Petai’n rhaid i fi grynhoi’r nofel mewn tri gair, bydden i’n dewis gafaelgar, tywyll a chyfrwys,” meddai Alun Davies, a gafodd ei fagu yn Aberystwyth ond sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd, cyn ychwanegu:

 

“Roeddwn i’n bendant o’r cychwyn taw yn Aberystwyth y byddai’r nofel yn cael ei lleoli. Roedd hyn yn rhannol gan taw yno y cefais i fy ngeni a’m magu ac felly rwy’n gyfarwydd iawn â’r dref, ond hefyd am fod yna elfen o noir yn gysylltiedig â’r ardal a’i thirlun, sy’n cael ei adlewyrchu mewn llyfrau awduron fel Geraint Evans, a chyfresi teledu fel Y Gwyll.”

 

Mae cyfresi fel Craith (Cymru), The Bridge (Denmarc a Sweden) a The Killing (Denmarc) a nifer fawr eraill o wledydd Ewrop wedi bod yn llwyddiannus iawn yn y blynyddoedd diwethaf, gan fanteisio ar y tirlun tywyll a du a geir yng ngogledd Ewrop. Braf yw gweld twf yn y genre yn yr iaith Gymraeg yn ogystal, gyda 2018 yn flwyddyn a hanner ar gyfer nofelau ditectif Cymraeg wrth i bobl fwynhau nofelau gan Geraint Evans, Jon Gower a Llwyd Owen.

 

Mae’r awdur yn gobeithio ehangu’r nofel yn gyfres o lyfrau, a dywed:

 

“Fy mhrif fwriad oedd ysgrifennu nofel dditectif dda – roeddwn i am iddi fod yn gyffrous, yn dywyll, ac yn hoelio’r sylw tan y dudalen olaf. Mae’r stori yn cael ei hadrodd yn lleisiau’r ddau dditectif, sef Taliesin ac MJ, a’r darllenwr yn cael gweld sut mae’n nhw’n delio mewn ffyrdd gwahanol iawn gyda sefyllfa erchyll, yn ogystal â dysgu sut i gydweithio.”

 

Caiff y gyfrol gan yr awdur newydd ei ganmol gan Jon Gower, awdur Y Düwch, sy’n tynnu sylw at “Llais newydd hyderus ym myd sgrifennu ditectif Cymraeg.”

 

Mae’r awdur yn gobeithio y bydd y nofel dditectif hon yn llenwi bwlch yn y farchnad Gymraeg am straeon difyr, tywyll a gwefreiddiol.