Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Nofel am lofruddiaeth yn Nant Gwrtheyrn

Lleolir nofel dditectif wreiddiol am ddirgelwch llofruddiaeth a gyhoeddir yr wythnos hon mewn un o leoliadau mwyaf eiconig Cymru, Nant Gwrtheyrn.

Lleolir Y Nant gan Bet Jones yn Nantgwrtheyrn ger Pwllheli, cartref poblogaidd i gyrsiau dysgu Cymraeg.

Digon brith yw'r saith cymeriad sy'n treulio'r penwythnos yn Nant Gwrtheyrn. Gloywi eu Cymraeg yw'r bwriad ond mae lladd ar feddwl un. Mae unrhyw obaith o ddianc yn diflannu pan ddaw storm o eira mawr i gau'r Gamffordd a charcharu'r criw gyda'r llofrudd.

Mae gan bawb ei gyfrinach, pawb â rheswm i ladd a phawb o dan amheuaeth.

'Gan fy mod yn enedigol o Drefor roedd dewis lleoli'r stori yn Nant Gwrtheyrn yn un naturiol iawn,' eglurodd Bet.

'Lleoliad cymharol anghysbell ar waelod allt serth yw'r Nant a gyda derbyniad radio, teledu a ffôn gwan yno mae teimlad o fod yn ddigyswllt â'r byd tu allan.' ychwanegodd Bet, 'Digon hawdd fyddai dychmygu pobl yn cael eu cau i mewn yno petasai eira mawr.'

Wrth drafod ei phenderfyniad i droi at ysgrifennu nofel dditectif meddai Bet,

'Mae'n rhaid i mi gyfaddef fy mod yn mwynhau darllen nofelau ditectif a gwylio cyfresi gydag elfen whodunnit ynddynt,' meddai hi, 'Bûm yn meddwl lawer gwaith am sefyllfa lle gallasai criw o bobl fod yn gaeth ble mae llofruddiaeth yn cymryd lle yn null rai o storïau Agatha Christie.'

Cafodd y nofel ganmoliaeth eisoes gan yr awdur nofelau ditectif poblogaidd, Geraint Evans, a'i disgrifiodd fel 'Nofel dditectif glasurol â digon o droeon.'

Ganed Bet Jones ym mhentref Trefor ond mae bellach yn byw yn y Bontnewydd ger Caernarfon. Enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych 2013 am ei nofel Craciau. Cyhoeddodd dair nofel arall, sef Beti Bwt, Gadael Lennon a Cyfrinach Craig yr Wylan.