Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Nofel 'agerstalwm' cyntaf erioed yn y Gymraeg

Yr wythnos hon cyhoeddir y nofel gyntaf erioed yn y genre ‘Agerstalwm’ (Steampunk) yn y Gymraeg. Mae Agerstalwm yn gwneud defnydd o hanes yr 19eg ganrif ond yn gorliwio datblygiadau technolegol y cyfnod er mwyn amlygu themâu sy’n berthnasol i ni heddiw. Babel yw teitl y nofel, sydd wedi ei hysgrifennu gan Ifan Morgan Jones a’i chyhoeddi gan Y Lolfa.

 Dywedodd yr awdur Ifan Morgan Jones, a gwblhaodd ddoethuriaeth yn hanes y wasg Gymraeg yn yr 19eg ganrif y llynedd, ei fod yn meddwl y byddai'r genre yn arbennig o berthnasol i Gymru gyfoes:

 “Roedd nifer o’r pynciau sy’n ein corddi ni heddiw – fel ‘newyddion ffug’, datblygiadau cyflym ym myd technoleg, a newid amgylcheddol, yn poeni pobol yn yr 19eg ganrif hefyd,” meddai’r awdur.

 “Yn hynod bwysig hefyd yn oes #MeToo yw hawliau a chydraddoldeb y ferch ac fe benderfynais ysgrifennu'r nofel o safbwynt menyw er mwyn amlygu’r themâu rheini.”

 “Yn fwyaf oll efallai, trafod ein perthynas â gwaith a chyfalafiaeth. Wrth i amodau gwaith waethygu, a ydyn ni’n dychwelyd i gyfnod lle’r oedd pobol yn cael eu trin fawr gwell na pheiriannau?”

 Mae Babel yn adrodd stori merch sy’n ffoi oddi wrth ei thad ymosodol er mwyn ceisio bod yn newyddiadurwr ar bapur newydd Llais y Bobol. Buan y mae ei menter yn ei harwain ar drywydd diflaniad plant amddifad o slym drwg-enwog Burma, gan ddarganfod cynllun annymunol iawn sy’n ymestyn hyd at arweinwyr crefyddol a pherchnogion y ffatri haearn gyfagos.

 Dywedodd Ifan Morgan Jones ei fod yn gyfnod pan ddatblygodd mudiad cenedlaethol yng Nghymru ar gefn bwrlwm y wasg argraffu, gan arwain at sefydlu sefydliadau cenedlaethol i Gymru.

 Roedd hynny hefyd yn ddrych i’r cyfnod presennol lle mae mudiadau yn galw am annibyniaeth – o San Steffan a’r Undeb Ewropeaidd – eto ar gynnydd.

 “Roedd yn oes o newidiadau gwleidyddol mawr yn debyg i’n cyfnod ni heddiw,” meddai. “Ac roedd yna deimlad bod rhywbeth yn ffrwtian yng Nghymru a balchder cenedlaethol ar gynnydd.

 “Roeddwn i eisiau archwilio’r pynciau rheini mewn rhagor o fanylder, fel y mae rhai yn tanio balchder cenedlaethol pobol a hefyd beth sy’n digwydd pan maen nhw’n colli rheolaeth ar hynny.”