Newyddion ffug ac athroniaeth 'stand up'
Gyda newyddion ffug yn cael ei drafod ym mhob cyfrwng a phob iaith ar hyn o bryd, mae llyfr Cymraeg newydd a gyhoeddir gan wasg Y Lolfa yn trafod y pwnc, mewn erthygl gan yr Athro Steven Edwards, gynt o Brifysgol Abertawe.
Wrth ystyried honiadau yng nghyd-destun Donald Trump a newyddion ffug yng Nghymru, honna Steven Edwards: “oherwydd natur gymdeithasol ein gwybodaeth... nid oes unrhyw fodd pendant o dreiddio i’r gwir.”
Un bennod o lawer yn trin a thrafod pynciau athronyddol a llenyddol ydi’r bennod ‘Newyddion Ffug’ yn y llyfr Llenydda, Gwleidydda a Pherfformio wedi ei olygu gan E. Gwynn Matthews. Ceir hefyd bennod am gomedi a pherffomio stand-up gan Dafydd Huw Rees yn y gyfrol.
Dyma’r seithfed gyfrol yn y gyfres Astudiaethau Athronyddol. Mae’r gyfrol yn trafod testunau oesol a chyfredol. Bwrir golwg ar y cysylltiad rhwng barddoniaeth T. H. Parry-Williams ac athroniaeth; olrheinir tarddiad syniadol rhai o’r safbwyntiau a amlygwyd gan Jac Glan-y-Gors yn Seren Tan Gwmmwl a Toriad y Dydd; amlinellir agweddau ar sosialaeth sydd yn anhepgor i wleidyddiaeth asgell chwith yng Nghymru a thu hwnt; a dansoddir ffenomenoleg a pherfformio mewn perthynas â’r Capel Cymraeg.
Mae’r gyfres ar gyfer Adran Athronyddol Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru (Urdd y Graddedigion gynt). Ynddi ceir ysgrifau sy’n ymwneud â meysydd sy’n ffinio ar athroniaeth neu sy’n cynnig eu hunain i drafodaeth athronyddol, yn arbennig ym myd y celfyddydau a’r byd gwleidyddol.
Meddai Gwynn Matthews, golygydd y gyfrol: “Mae’r awduron wedi ysgrifennu mewn modd hygyrch i’r sawl sydd heb gefndir academaidd mewn athroniaeth, ond eto’n trafod gweddau ar eu pwnc fydd o ddiddordeb i arbenigwyr yn ogystal.”