Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Neges bwysig o ddathlu amrywiaeth yng nghyfres Cyw

Mae Bolgi a’r Ŵyn Bach, sef y llyfr nesaf yng nghyfres poblogaidd Cyw gan Anni Llŷn, yn dilyn un o ffrindiau gorau Cyw wrth iddo edrych ar ôl oen bach Guto’r Ffermwr. Mae ynddi neges bwysig am gydraddoldeb, dathlu amrywiaeth, a thrin pawb yr un peth.

Dyma’r wythfed yn y gyfres o lyfrau Cymraeg Cyw sydd yn addas i blant 7 ac iau. Mae’r gyfres yn gydweithrediad rhwng gwasg y Lolfa, cwmni teledu Boom Plant ac S4C.

Meddai Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Rhaglenni Plant S4C:

“Mae’n hyfryd gweld ein brand plant poblogaidd Cyw yn parhau i ddatblygu. Rwy’n siŵr fydd plant ledled Cymru a thu hwnt yn mwynhau darllen Bolgi a’r Ŵyn Bach. Mae cyflwyno negeseuon amserol mewn ffyrdd hwyliog a chynnil yn sicr yn flaenoriaeth i ni, ac mae’r neges o ddathlu amrywiaeth, sy’n rhan ganolog o’r llyfr hwn, yn thema bwysig i’n cymunedau heddiw.”

Mae yna gyfres Cyw arall i blant sy’n dysgu Cymraeg fel ail iaith,sef ‘Dysgu gyda Cyw’. Mae’r llyfrau yma’n rhoi cymorth i blant di-Gymraeg gael gafael syml ar yr iaith gan eu bod yn llyfrau dwyieithog.

Yn 2019 cafodd stori fer am Cyw a’i ffrindiau ei chyhoeddi ar gyfer Diwrnod y Llyfr – yr ail lyfr Cymraeg erioed i fod yn rhan o’r ymgyrch. Roedd Darllen gyda Cyw yn stori am y criw o ffrindiau yn darllen a mwynhau llyfr yr un.

Mae’r gyfres wedi cael enw da fel ffordd o ddysgu geirfa i blant bach – geirfa sy’n gysylltiedig â phatrymau iaith syml ar thema’r stori. Mae storïau’r gyfres yn ymwneud â phethau a digwyddiadau cyfarwydd i blant, a’r cymeriadau’n adnabyddus iawn, gan i raglenni Cyw ddathlu 10 mlynedd ar y teledu yn 2018.