Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Mewnolwg i fywyd Huw Chiswell

Mewn cyfrol hunangofiannol, ddadlennol, onest a chignoeth o’r enw Shwd ma’i yr hen ffrind? mae’r canwr Huw Chiswell yn rhannu stori ei fywyd.

Mae’r gyfrol yn cynnwys geiriau 10 o ganeuon enwocaf y canwr-gyfansoddwr poblogaidd, wedi eu plethu â straeon personol a lluniau o’i fywyd.

Mae Shwd ma’i yr hen ffrind? yn datgelu y sbardun ysgogodd rhai o’i ganeuon enwocaf. Olrheinir ei fagwraeth yng Nghwm Tawe, ei berthynas â’i deulu a’i natur wrthryfelgar yn ystod ei lencyndod, ynghyd â’i gyfnod byrhoedlog fel paffiwr amatur. Rhennir hanesion am gyfnod prifysgol yn Aberystwyth ac Abertawe ac am brofiadau amrywiol ym myd teledu a hynny o flaen a thu ôl y camera. Mae’n siarad yn onest hefyd am ei yrfa gerddorol mewn grwpiau pop ac fel artist unigol, am y cyfryngau a’r sin gerddoriaeth Gymraeg.

Meddai Huw Chiswell:

Hanes rhai o’m caneuon sydd yn y gyfrol hon a chan bod y caneuon hyn yn gymaint rhan ohonof erbyn hyn, mae’n anorfod bod yma hefyd elfen o hunangofiant. Mae’n debyg y bydd llawer o’r caneuon o dan sylw yn lled gyfarwydd i’r rhelyw o’r darllenwyr, a dyna fan cychwyn hwylus ar gyfer taith trwy hanes cân, a chyd-destun parod ar gyfer rhywfaint o’m hanes innau hefyd. Mae’r caneuon eisoes ar ddisg, tâp a phapur, a does dim cuddio na gwadu eu cynnwys. O lencyndod hyd at heddiw, mae awgrym o fy agwedd tuag at fywyd yno’n glir mewn cân. Ond gobeithio fod yr ymdriniaeth a’r hanesion sydd yn y gyfrol hon yn cynnig dealltwriaeth bellach, ambell wedd newydd ar y gwaith a mewnolwg dyfnach i’m bywyd a’m cymeriad innau hefyd.”

Yn ogystal â darlunio ac adrodd hanesion am aelodau ei deulu, ceir straeon sydd yn cynnwys rhai o enwogion Cymru fel Dewi Pws.