Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Môn, Cymru a’r Bêl - Stori Osian Roberts

Mewn noson fywiog ym Modffordd lansiodd Y Lolfa hunangofiant is-reolwr tîm pêl-droed Cymru Osian Roberts. Mae'r gyfrol yn datgelu sut y llwyddodd Cymru i gyrraedd rowndiau terfynol Euro 2016, gan wr a wnaeth gymaint o'r gwaith tu ôl i'r llenni – Cymro balch nad yw wedi anghofio'i wreiddiau ac sydd wedi bod yn allweddol i roi Cymru ar fap pêl-droed y byd.

Yn 2011 cafodd ei benodi i weithio gyda charfan bêl-droed Cymru o dan Gary Speed. Yn y gyfrol mae Osian yn trafod yn onest ei falchder o gael gweithio gyda Gary, y golled enfawr pan fu farw a sut effeithiodd y drychineb honno arno ef a'r garfan. Erbyn hyn mae'n is-reolwr i Chris Coleman ac mae Osian yn datgelu cyfrinachau tu ôl i lwyddiant y tîm cenedlaethol. Ceir blas o'r gwaith caled, y dulliau hyfforddi proffesiynol a'r tactegau craff a deallus sydd wedi arwain at drawsnewid ffawd Cymru wrth iddynt ddringo i fyny rhestr detholion y byd ac ennill ei lle ym Mhencampwriaeth Ewrop. Ceir hefyd gipolwg tu ôl i'r llenni ar y gwersylloedd ymarfer a sawl hanesyn am y chwaraewyr.

Yn ogystal â bod yn hanfodol i bawb fydd yn dilyn Cymru yn yr Euros mae'r gyfrol yn cyfleu'r aberth a'r weledigaeth sy'n gyrru person i gyrraedd y brig yn ei faes. Ceir hefyd ddarlun o fagwraeth Osian ym Modffordd, ei yrfa fel chwaraewr yn ogystal â'i gyfnodau yn America lle fwriodd ei brentisiaeth fel hyfforddwr.