Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Lyn Ebenezer yn ‘Gofidio am y Gymraeg a chefn gwlad’

Mae’r awdur Lyn Ebenezer wedi mynegi ei ofid dros y Gymraeg a chefn gwlad mewn cyfrol o atgofion a gyhoeddir yr wythnos hon.

Cyflwynai Y Meini Llafar i ‘holl Blant y Bont: y gorffennol a’r dyfodol – os fydd yna un’. Ynddo, amlygir y teimladau o golli yr hen ffordd o fyw a’r gofid o weld dirywiad y gymdeithas a’r iaith Gymraeg yn amlwg.

‘Fel sy’n gyffredin i’n hardaloedd gwledig, gadael wna’r ifanc cynhenid i chwilio am waith. Mewnfudwyr ddaw yn eu lle, y mwyafrif ohonynt yn henoed. Rhwng allfudiad yr ifanc a mewnfudiad estroniaid, marw mae’r bywyd cymdeithasol Cymraeg.’ meddai Lyn, ‘Mae’r mannau lle bu pobol yn crynhoi i ddal pen rheswm a thynnu coes bellach yn wag. Ildiodd sgwrsio pen ffordd ei le i drydar a thecstio digymeriad. Collwyd yr arferiad o sgwrsio.’

Cofnododd Lyn ei atgofion am hen ffordd o fyw drwy ddilyn trywydd cerfiadau enwau pobl ei ardal sydd wedi eu naddu ar y bont yn Bontrhydfendigaid.

‘Bu’r hen bont yn rhan o’m bywyd i erioed. Fe’i croeswn hi’n ddyddiol ar droed ar fy ffordd i’r ysgol a saif ar y bryn uwchlaw’r pentre. Bu’n gymaint rhan o’m bywyd â’r ysgol ei hun, lawn gymaint â’r capel a’r festri, hen neuadd y pentre, y siop a gweithdy’r crydd’ meddai, ‘Fydd neb ers degawdau bellach yn ymgasglu ar y bont i sgwrsio, heb sôn am naddu enwau ar y meini. Fydd plant nac oedolion ddim yn ymgasglu bellach i gymdeithasu mewn mannau canolog fel ar sgwâr neu ar bont.’

‘Yn wir, ddim yn unlle... Yn syml, collwyd yr arferiad o sgwrsio pen ffordd.’ ychwanegodd.

Mae Y Meini Llafar yn adleisio newid cymdeithas gyfan, yn hytrach na dim ond ei ardal. Mae’r rhai a bortreadir yn perthyn i gymdeithas gyfan sydd wedi diflannu, a hynny o fewn y tri chwarter canrif diwethaf.

‘Gadawsant eu marc ar y bont ac yn ddwfn ar fy nghof innau. Yma ym Mhontrhydfendigaid mae’r afon yn dal i lifo. Ac mae meini’r hen bont yn dal i lefaru, er dim ond i’r rhai sy’n deall eu hiaith ac sy’n barod i wrando. A phrinhau mae’r rheiny.’ meddai Lyn.

Yn y gyfrol ceir portreadau o gymeriadau fel Ianto John y Potshwr, Tom Lloyd Florida Shop a Guy Morgan, un o arwyr cynnar clwb pêl-droed y Bont, a cheir atgofion lu am gyfeillion a theulu a fu mor ganolog i’w fywyd.

Ceir hefyd deyrnged ardderchog i’w Wncwl Dai, a laddwyd yn y Rhyfel Mawr yn ddim ond 19 oed, yn ogystal â’r bryddest bwerus iddo a ddaeth yn agos i’r brig ar gyfer y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol ym Môn eleni.

Cafodd y bryddest ganmoliaeth arbennig gan y beirniaid a chafodd dawn Lyn ei ganmol gan Emyr Llewelyn a ddyweodd, ‘Dawn brin yw medru sgrifennu’n ddifyr ac yn ddiddorol gan ddal sylw’r darllenydd o’r dechrau i’r diwedd. Mae gan Lyn Ebenezer y ddawn honno a hynny am ei fod yn feistr llwyr ar yr iaith Gymraeg ac yn medru sgrifennu’n syml ac eto’n grefftus.’