Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Llyfr Shwshaswyn i gyflwyno ymwybyddiaeth ofalgar i blant bach

Mae iechyd meddwl wedi dod yn bwnc amlwg dros y blynyddoedd diwethaf, ac wedi dod hyd yn oed yn fwy perthnasol eleni, yn sgil argyfwng rhyngwladol Coronafeirws. Mae trefn arferol miloedd o blant ac oedolion wedi’i ddinistrio, a gofid ac ansicrwydd wedi codi yn ei le. Yr wythnos yma, cyhoeddir llyfr cyntaf Shwshaswyn, Garddio, sydd hefyd yn gyfres deledu. Mae’r gyfres newydd yma, sydd yn trafod ymwybyddiaeth ofalgar, wedi’i hanelu at blant dan 7 oed, ac yn gwahodd plant i ddianc o brysurdeb eu byd drwy arafu, gwrando, llonyddu a thawelu.

Nia Jewell yw awdures y gyfres, ac mae wedi trafod cynnwys ac ymarferion y llyfr gyda’r Ganolfan Ymwybyddiaeth Ofalgar ym Mhrifysgol Bangor. Meddai Nia,

“Y nod o’r cychwyn oedd creu platfform i ymfalchïo yn chwilfrydedd y plentyn ac i gario neges dawel i rai bach a mawr i ddal gafael ar y cyfnodau meddylgar hanfodol hyn serch prysurdeb bywyd. Mae bywyd cartref ac ar lawr dosbarth yn brysur ar y gorau ac yn ddiweddar mae rhwystrau a chymhlethdodau newydd wedi achosi pryder, gorbryder a theimladau mawr. Mae tystiolaeth fod ymwybyddiaeth ofalgar yn lleihau iselder, pryder ac ADHD mewn plant a’u helpu i ymdopi’n well â straen.”

Mae stori Garddio yn cyflwyno dulliau o helpu ymlacio meddwl plentyn er mwyn gallu chwarae gydag un peth ar y tro a chanolbwyntio ar y byd o’u hamgylch. Mae’r Capten yn gwrando ar sŵn dŵr yn tincial wrth ddyfrio’r pridd er mwyn i Seren blannu hadau. Mae’r trydydd cymeriad, Fflwff yn arsylwi ar ddant y llew cyn cymryd anadl mawr a chwythu’r hadau bach i’r awyr.

“‘Ty’d rŵan, rho hwnna lawr’ oedd fy ymateb yn aml wrth i’m plant ‘ddilidalio’ a llusgo’u traed. Ond o’u gweld yn ymroi i’r cyfnodau byr hyn o arsylwi dechreuais innau edrych ar y byd drwy eu llygaid a bod yn ‘bresennol’, o osgoi meddwl am yr hyn sydd wedi bod neu’r hyn sydd i ddod, ymdoddi ac ymroddi i’r foment. Deallais bwysigrwydd y cyfnodau llonydd, myfyrgar hyn i feddyliau iach. Yna dechreuais feddwl am ddull i godi ymwybyddiaeth a chreu cyfleoedd i brofi meddylgarwch yng nghyfryngau’r plant.”

Dyluniwyd y llyfr gan Sïan Angharad, ac mae’n defnyddio tecstilau a defnyddiau gwahanol o fewn y lluniau. Ceir rhwng 10 a 20 gair yn unig ar bob tudalen.

Mae gweithgareddau i gyd-fynd â’r llyfr ar wefan Cyw S4C. Mae’r gweithgareddau yma’n cynnig cyfleoedd i fireinio sgiliau hunanreolaeth, i dawelu, i ganolbwyntio’n haws a hyd yn oed i fod yn fwy caredig tuag at eraill, gan ddefnyddio egwyddorion ymwybyddiaeth ofalgar. Gall ymdrin ag emosiynau fod yn anodd, ond gall fod yn haws os ydych yn ymarfer gwrando ar y corff ac aros yn y foment bresennol.

“Holl bwrpas creu byd Shwshaswyn yw i’n hysbrydoli’n dawel i blethu’r cyfnodau byr o feddwlgarwch i fewn i’n bywydau prysur. Mae’r cymeriadau’n sylwi ar wrthrychau cyffredin, drwy defnyddio’u synhwyrau ac ymroi yn gwbwl i’r foment. Mewn byd sy’n newid yn ddyddiol, mae’r Capten, Seren a Fflwff yn ein hatgoffa ni i gyd gymeryd cyfleoedd tawel ac i fod yn ddiolchgar am y pethau bach,” meddai Nia.

Yn addas i blant 4-7 oed.