Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Llyfr newydd i ddysgwyr yn cynnwys straeon wedi eu hysbrydoli gan y cyfnod clo

Mae’r Ganolfan Genedlaethol Dysgu Cymraeg, yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Lolfa wedi cydweithio ar lyfr newydd o straeon gan rai o awduron blaenllaw Cymru ar gyfer dysgwyr. Bydd y llyfr yn cael ei lansio adeg gŵyl AmGen, gydag un stori yn cael ei ddarllen bob dydd am yr wythnos gyfan. Llyfr delfrydol i ddysgwyr sy’n awchu am ddeunydd i’w helpu yn ystod y cyfnod anodd yma.

Mae Ffenest a Straeon Eraill i Ddysgwyr yn cynnwys 8 stori newydd ar gyfer Lefel Sylfaen. Mae’r casgliad yn trafod themâu cyfoes a thraddodiadol megis perthyn a threftadaeth, mewnfudwyr, hiliaeth, cariad – a’r cyfnod anodd rydym i gyd wedi bod yn profi’n ddiweddar, y cyfnod clo yn sgil y coronafeirws.

Mae’r Lolfa yn falch iawn i barhau gyda’r gyfres Amdani, a lansiwyd yn ôl yn 2018, sef prosiect a welodd bedwar o weisg Cymru (Y Lolfa, Atebol CAA a Gwasg Gomer) yn cydweithio gyda Chanolfan Cenedlaethol Dysgu Cymraeg a Chyngor Llyfrau Cymru i ddatblygu a chyhoeddi cyfres gyhoeddwyd cyfres newydd gyffrous o 20 o lyfrau darllen yn arbennig ar gyfer oedolion sy’n dysgu Cymraeg.

Mae’r straeon yma wedi’u anelu at ddysgwyr Sylfaen. Fel ym mhob un o lyfrau’r gyfres, mae geirfa newydd, a’r cyfieithiad Saesneg ar waelod pob tudalen, yn ogystal â rhestr gyflawn o’r geiriau hynny yng nghefn y gyfrol.

Mae nifer o’r awduron hefyd yn diwtoriaid dysgu Cymraeg fel ail iaith, gan gynnwys Mared Lewis, Bethan Gwanas a Lois Arnold. Ceir straeon hefyd gan Meleri Wyn James, Manon Steffan Ros, Guto Dafydd, Siôn Tomos Owen ac Elinor Wyn Reynolds.

Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwraig Canolfan Cenedlaethol Dysg Cymraeg:

“Rydym yn hapus iawn bod y llyfrau yma yn cael eu cynnig ar lefelau graddoledig – bydd hyn yn sicr yn helpu cynyddu hyder ymysg y dysgwyr.”

Mae’r gyfres hon yn llenwi’r blwch trwy roi cyfle i ddysgwyr Cymraeg fwynhau darllen am amrywiaeth o bynciau a themâu cyfoes.