Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Llyfr newydd am adar wedi ei ysgrifennu gan ferch 10 oed

Ym mlwyddyn 6 Ysgol Treganna mae Onwy Gower yn ddisgybl, ond eleni mi fydd hi’n cyhoeddi ei llyfr cyntaf – efallai’r person ifancaf erioed i ysgrifennu llyfr Cymraeg. Roedd Onwy yn gweld bwlch o ran llyfrau natur i blant, ac felly mi aeth ati i ysgrifennu llyfr ei hun sy’n cynnwys ffeithiau a darluniau o adar.

 

Mae Llyfr Adar Mawr y Plant yn llyfr ffeithiol am 50 o adar sydd i’w gweld yng Nghymru gyda ffeithiau diddorol am bob un.

 

Meddai Onwy:

“Roeddwn am ysgrifennu llyfr byddai’n apelio i blant, oherwydd dydy oedolion ddim yn deall yn hollol beth rydyn ni’n mwynhau darllen a pha ffeithiau rydyn ni am wybod!”

 

Mae pob aderyn gyda dwy dudalen o luniau, gan gynnwys ffotograffau a lluniau wedi eu comisiynu’n arbennig ar gyfer y gyfrol gan yr artist o Ogledd Cymru, Ffion Gwyn. Ceir hefyd ffeithiau megis maint, cynefin a bwyd yr adar, disgrifiad, mis-o-metr, Ffeithiau Ffab a geirfa. Bydd yn cynnwys pennill am bob aderyn, rhai wedi’u hysgrifennu gan Onwy a’i thad, Jon Gower, a rhai cerddi sy’n bodoli eisoes gan feirdd fel T. Llew Jones.

 

“Dechreuais wylio adar pan ges i fy minociwlars cyntaf yn 2016, ac ers hynny rwyf hefyd wedi derbyn telesgop gwych yn anrheg gan Graham, gŵr Llio Rhydderch, y delynores. Rwy’n mynd i wylio adar gyda fy nhad, yn enwedig ym Mhenclacwydd ger Llanelli, sef fy hoff le i fynd i edrych ar hwyaid a gwyddau, ac adar eraill sy’n hoffi byw yn y dŵr,” meddai Onwy. “Fy hoff aderyn yw’r sigl-di-gwt, oherwydd mae’n ddoniol i wylio gan ei fod yn siglo ei gynffon drwy’r amser. Mae Llyfr Adar Mawr y Plant yn llawn ffeithiau. Fy hoff ffaith am aderyn yw un am y robin goch. Yn yr hen ddyddiau roedd glowyr yn credu os oedden nhw’n gweld aderyn gwyllt dan ddaear byddai rhywbeth gwael yn digwydd. Gwelwyd robin goch dan ddaear tair gwaith, a bob tro fe wnaeth trychineb ddigwydd yn fuan wedyn.”

 

Meddai Iolo Williams:

“Ar adeg pan rydym, yn anffodus, yn colli llawer o’n geirfa byd natur yn Gymraeg, mae’r llyfr yma yn sicr yn mynd i helpu i ddod â byd yr adar yn amlwg unwaith eto. Mae hwn yn llyfr amserol tu hwnt.”