Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Llyfr cyntaf artist yn sôn am ymfudo, hiraeth a chwiltiau

Mae’r arlunydd a dylunydd adnabyddus Valériane Leblond wedi ysgrifennu’i llyfr cyntaf i blant, ynghyd â darlunio’r lluniau. Mae Y Cwilt (Y Lolfa) yn barhad o’r themâu mae’n archwilio yn ei gwaith celf, sef y syniad o berthyn, a’r darlun o gwiltiau.

 

Meddai Valériane Leblond:

“Roedd ysgrifennu fy llyfr cyntaf yn brofiad diddorol iawn. Fel arfer rwy’n adrodd stori drwy luniau, mae’n brofiad gwahanol gyda geiriau. Mae fy nhad o Québec, felly mae rhai o fy nghyndeidiau wedi gwneud siwrne debyg i’r un sydd yn y stori, ac wedi teithio o Ewrop i Ogledd America, er mwyn dianc rhag tlodi a gormes.”

 

Mae’r stori yn dilyn teulu bach sy’n penderfynu gadael Cymru ar ôl cyfnod caled gyda diffyg bwyd i’r anifeiliaid a’r bobl, a mynd i chwilio am fywyd gwell yn America bell. Dros y gaeaf oer a llwm, mae’r fam yn cwiltio a chanu o flaen y tân, a phan mae’r ferch fach yn hiraethu yn ystod y siwrne dros y môr, mae’n cwtsio’r cwilt ac yn cofio am ei chartref ymysg y defaid a’r gwenoliaid. Mae un peth yn clymu Cymru ac America – pan mae hiraeth yn codi am y bwthyn bach ar lan y môr, mae’r cwilt coch a du yn gysur mawr.

 

Mae Valériane wedi bod yn gweithio ar y cyd gyda’r arddangosfa Storïau, Cwiltiau a Chranci, gyda rhan ohono wedi cael ei arddangos dan y teitl Meddygon, Swynion a Melltithion (Curers, Charms and Curses) yng Ngorllewin Virginia yn yr Unol Daleithiau ym mis Mai. Mae’r arddangosfa nawr yn ôl yng Nghymru, gyda lluniau a chwiltiau ychwanegol.

 

“Mae wedi bod yn wych bod yn rhan o’r prosiect yma. Mae gen i ddiddordeb mewn cwiltiau a gwaith clytwaith ers fy arddegau, pan wnaeth fy mam gwilt i mi. Ers symud i Gymru, rwyf wedi peintio a darllen llawer am y grefft gwiltio Gymreig, sy’n hollol unigryw,” meddai Valériane. “Y peth mwyaf diddorol imi yw’r ffaith fod y cwiltiau yma wedi cael eu creu pan oedd y cyfleoedd i ferched weithio ac ennill arian yn brin iawn. Hefyd, wrth edrych yn fanwl, mae’n llawer mwy na chrefft – mae’n gelf haniaethol gain!”

 

Yn draddodiadol, mae cwiltiau Cymreig yn syml o ran clytwaith, gyda mwy o bwyslais ar y pwythau a phatrymau’r edau. Mae traddodiad cwiltio Gogledd America yn canolbwyntio mwy ar y clytwaith, a does bron dim cwiltio. Ar ôl dweud hynny, mae cymunedau Amish wedi bod yn creu cwiltiau sy’n debyg iawn i’r rhai traddodiadol Cymreig.

 

Mae Valériane wedi darlunio nifer fawr o lyfrau i blant dros y blynyddoedd, yn creu darluniau i storïau awduron fel Caryl Lewis, Haf Llewelyn ac Elin Meek. Roedd hefyd yn arddangos lluniau o gwiltiau yng Nghanolfan Cwiltiau Cymreig o 2009 tan i’r Ganolfan gau yn 2017. Mi fydd y Ganolfan yn Llanbedr Pont Steffan yn ailagor yn 2020, a bydd Valériane yn arddangos lluniau newydd yno yn y gwanwyn.