Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Llyfr coginio figan cyntaf yn y Gymraeg!

Mae Ceri Lloyd yn wyneb adnabyddus – yn ogystal â’i rôl ar y gyfres Rownd a Rownd mae’r actores hefyd yn rhedeg blog a chyfrif Instagram poblogaidd, sef www.saib.yoga. Mae Ceri’n angerddol am ysbrydoli pobl i fyw bywyd mwy iach a chynaliadwy, a dyma mantra ei llyfr coginio figan, y cyntaf erioed yn y Gymraeg. Mae O’r Pridd i’r Plât yn addas i bawb sydd eisiau cael eu hysbrydoli i fwyta mwy o lysiau a byw’n iach.

 

Chwe blynedd yn ôl fe gafodd Ceri Lloyd ei hysbrydoli i roi cynnig ar ffordd newydd o fwyta:

“Cefais gyfnod eithaf tywyll ar ôl graddio, yn mynd i glyweliadau ac yn gweithio oriau hir mewn swyddi â thâl isel i dalu fy ffordd. Roeddwn yn yfed lot, yn ’smygu lot ac roedd fy neiet yn cynnwys dim byd ond prydau parod a bwyd wedi’i brosesu. Roeddwn yn teimlo’n ofnadwy, roedd fy nghroen yn dioddef, fy emosiynau dros y lle i gyd a fy lefelau egni yn isel iawn,” meddai Ceri Lloyd.

 

Fe ddechreuodd ar ddeiet figan gan ollwng pob cynnyrch anifail a chychwyn gwneud smwddis llawn llysiau a ffrwythau organig. Fe gwympodd mewn cariad gyda byw yn iach, dechrau ymarfer ioga yn ddyddiol ac ymddiddori mewn ffyrdd newydd o greu prydau bwyd blasus. Mae Ceri wedi cwblhau cwrs ioga 13 mis gyda’r Om Studio sy’n ei galluogi i ddysgu ioga, a hefyd wedi cwblhau cwrs gyda’r Institute of Integrative Nutrition. Mae’r diddordeb yma nawr nid yn unig wedi troi yn ffordd o fyw ond yn fusnes.

 

“Fy ngweledigaeth gyda SAIB yw helpu pobl i deimlo fel y fersiwn gorau ohonyn nhw’u hunain! I deimlo’n fwy presennol, yn fwy hyderus. Mae cymryd SAIB o’r diwrnod pan mae bywyd mor brysur yn bwysig iawn, a thrwy ymroi’r amser yma i deimlo’n well maent yn gallu ymroi amser i wneud i rywun arall deimlo’n well.

 

Mae’r gyfrol yn cynnig ryseitiau ar gyfer pob tymor, defodau i’w hymarfer, ioga a chanllaw ar sut i fyw bywyd cytbwys, cynaliadwy a hapus. Mae’n llawn lluniau hyfryd y ffotograffydd talentog Rhiannon Holland (Mefus Photography), sydd hefyd yn un o ffrindiau gorau Ceri.

 

Meddai Rhiannon: “Mae Ceri yn graig o ffrind sy’n credu ynddot ti ac yn dda iawn yn rhoi hyder i ti wneud pethau mawr. Dyma’r tro cyntaf i fi weithio ar luniau ar gyfer llyfr – rwy wedi mwynhau’r broses yn fawr.”

 

Mae’r rhagair gan y gantores Alys Williams, sydd hefyd yn figan, yn trafod y ffaith bod O’r Pridd i’r Plât yn annog unigolion i roi nhw’u hunain a’u hiechyd yn gyntaf, wrth bwysleisio “pwysigrwydd cymryd saib i goginio bwyd iach, neu ymarfer ioga, neu i berfformio defod sy’n gwneud lles i’r meddwl, y corff a’r enaid.”, geiriau sy’n cael eu hategu gan yr artist Niki Pilkington sy’n canmol y ffordd mae arddull “syml a hyfryd” Ceri wedi creu llyfr sy’n “hawdd i unrhyw un sy’n edrych i newid eu ffordd o fyw.”

 

“Mae fy mywyd wedi newid yn gyfan gwbl! Allai wir ddim adnabod y person o’n i cynt!” meddai Ceri, “rwy’n teimlo’n anhygoel, ond hefyd mae fy ffordd o fyw yn gynaliadwy i’r blaned. Rwy’n edrych ymlaen i bobl drio agweddau gwahanol o beth mae fy llyfr yn ei gynnig – mae’n syndod sut mae camau bach a newidiadau syml yn gallu cael effaith mor bositif ar egni a theimladau pobl.”

 

Yn dilyn llwyddiant cydredeg y blog Eat Sleep Organic mewn cynadleddau figan yn Los Angeles, Efrog Newydd a Llundain, mae hi erbyn hyn yn rhedeg y wefan SAIB (www.saib.yoga ) sydd yn cynnig ryseitiau figan a chyngor ar sut i fyw yn ymwybodol o’i chartre yng Nghaernarfon. Yn ogystal â hyn, mae Ceri yn cynnal digwyddiadau ioga a chlybiau swper ledled Crymu. Gallwch ffeindio mwy o wybodaeth am Ceri a SAIB ar ei chyfrif Instagram @ceri_lloyd.