Llew o gyfres Cyw yn cael ei lyfr ei hun!
Mae Llew a’r Dant Coll, sef y llyfr nesaf yng nghyfres poblogaidd Cyw gan Anni Llŷn, yn dilyn un o ffrindiau gorau Cyw, wrth iddo golli dant ac aros yn eiddgar am y dylwythen deg.
Dyma’r seithfed yn y gyfres o lyfrau Cymraeg Cyw sydd yn addas i blant 7 ac iau. Mae’r gyfres yn gweld gwasg y Lolfa yn cydweithio gyda chwmni teledu Boom Plant ac S4C i greu a chyhoeddi’r gyfres.
Cafodd stori fer am Cyw a’i ffrindiau ei chyhoeddi ar gyfer Diwrnod y Llyfr eleni, yr ail lyfr Cymraeg erioed i fod yn rhan o’r ymgyrch. Roedd Darllen gyda Cyw yn stori am y criw o ffrindiau yn darllen a mwynhau llyfr yr un.
Mae’r gyfres wedi cael enw da fel ffordd o ddysgu geirfa i blant bach – geirfa sy’n gysylltiedig gyda phatrymau iaith syml ar thema’r stori. Mae storïau’r gyfres yn ymwneud â phethau a digwyddiadau cyfarwydd i blant, a’r cymeriadau’n adnabyddus iawn, gan i raglenni Cyw ddathlu 10 mlynedd ar y teledu y llynedd.
Ers lansio’r gyfres, datblygwyd cyfres dysgu Cymraeg fel ail iaith ‘Dysgu gyda Cyw’ hefyd. Mae’r llyfrau yma’n rhoi cymorth i blant di-Gymraeg gael gafael syml ar yr iaith gan eu bod yn llyfrau dwyieithog.