Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Llais cryf ieuenctid yn torri tabŵ cyflyrau hirdymor

Mae cyfrol a gyhoeddir yr wythnos hon yn ceisio torri’r tabŵ o siarad yn onest ac yn ddewr am eu cyflyrau hir dymor, boed hynny’n salwch corfforol neu feddyliol. Mae Byw yn fy Nghroen (Y Lolfa) yn cynnig cymorth drwy gyfrwng y Gymraeg i’r rhai sydd yn ymdopi â’u brwydrau eu hunain yn ogystal â llenwi’r bwlch yng ngwybodaeth y cyhoedd yn gyffredinol am gyflyrau fel epilepsi, acne, clefyd y siwgr, OCD a chancr y gwaed.

 

Mae Byw yn fy Nghroen yn cynnwys ymateb 12 o bobl ifainc, rhwng 10 a 26 oed, sydd wedi bod trwy fwy na’u siâr o frwydro a dioddef, a’r ffordd y maent yn ymdopi mewn ffordd bositif ac urddasol. Golygwyd y gyfrol gan Sioned Erin Hughes o Ben Llŷn, sy’n dioddef o gyflwr prin Myasthenia Gravis.

 

Yn rhagair y gyfrol, mae Sioned Erin yn nodi bod salwch unigolion, yn enwedig yn ystod plentyndod, yn effeithio ar y rhwydwaith o deulu a ffrindiau:

 

“Mae salwch, afiechyd, cyflwr – diffinia fel y mynni – yn medru creu’r llanast mwyaf o dy fywyd di. Ac nid o dy fywyd di yn unig, oherwydd mae’r bobl agosaf at y sawl sydd yn dioddef yn ddiau am deimlo’r difrod yn eu bywydau hwythau hefyd.”

 

Mae’r gyfrol yn dilyn patrwm Gyrru drwy Storom (Y Lolfa) yn 2015 sy’n trafod iechyd meddwl, Galar a Fi (Y Lolfa) a gyhoeddwyd yn 2017 sy’n trafod galar a Codi Llais (Y Lolfa) yn 2018 sy’n trafod profiadau merched yn y Gymru gyfoes.

 

Fel gyda salwch meddwl a galar, mae tabŵ yn perthyn i gyflyrau hir dymor corfforol a meddyliol gyda nifer o’r cyflyrau hefyd yn anweladwy, a symptomau a difrifoldeb yn newid o ddydd i ddydd.

 

Ceir 12 stori hollol unigryw a dirdynnol yn Byw yn fy Nghroen ond y brif thema sy’n gwau drwy’r hanesion i gyd ydi gobaith.

 

Adroddwyd yn y wasg y llynedd i gyflwr Sioned Erin Hughes ei hatal rhag mynychu’r seremoni wobrwyo ar ôl iddi ennill Coron Eisteddfod yr Urdd 2018, ac mae hithau yn cymryd golwg bositif ar ei chyflwr, cyflwr sydd yn golygu ei bod hi’n methu â gwneud dim drosti ei hun am adegau hir o amser. Dywed: “Wnaf i ddim digio gormod at y frwydr felly, oherwydd gwn fod y rhannau gorau ohonof i wedi deillio o’i goroesi hi, ac nid o’i hosgoi.”

 

Mae Liwsi Mô (10 oed), o Ddyffryn Ogwen, sydd yn cael hyd at 30 ‘blanc’ bob dydd gyda’r cyflwr epilepsy, yn gorffen ei ysgrif gyda’r geiriau: “Er fy ’mod i efo epilepsi, dwi’n gweld fy hun yn hogan lwcus iawn, a dydi epilepsi ddim yn stopio fi rhag gwneud uffar o ddim byd!”

 

Mae George Bowen-Phillips (17 oed), o Sir Gaerfyrddin, sy’n dioddef o spina bifida yn dweud: “[y] diwrnodau heriol yw’r diwrnodau sydd yn fy ngwneud i’n benderfynol, ac felly’n fy ngwneud i’r person ydw i.”

 

Mae Mared Jarman (24 oed), sy’n byw yng Nghaerdydd ac yn dioddef o gyflwr Stargardst yn dweud: “Peidiwch â theimlo trueni drosta i, oherwydd dyw gwerth bywyd ddim yn bodoli yn ein golwg, ond yn hytrach yn bodoli ynddon ni fel pobl; yn ein gweithredoedd, ym mywyd ein hunan, ac yn sut yr ydyn ni’n penderfynu byw ynddo.”

 

Mae’r gyfrol yn trafod bwlio, colli hunanhyder, galar amrwd, gorfod creu amserlen bywyd o amgylch y salwch, adnabod cyraeddiadau salwch, unigrwydd, rhagfarn a chymdeithas yn cwestiynu’r cyflwr, yn ogystal ag esbonio triniaethau difrifol mewn ysbytai, i enwi ond ychydig.