Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Gwnewch yn fawr o bob cyfle: Neges nofel newydd hwyliog a ffraeth Marlyn Samuel

Dros y blynyddoedd diwethaf mae Marlyn Samuel wedi sefydlu’i hun yn frenhines y nofel gyfoes boblogaidd Gymraeg, ac mae ei nofel newydd yn parhau ei theyrnasiad. Mae Cicio’r Bwced yn nofel deimladwy a ffraeth, gyda neges bwysig wrth wraidd y stori.

 

Ar gychwyn y nofel, ceir dyfyniad gan yr actor enwog Tom Hiddleston: ‘We all have two lives. The second one starts when we realize that we only have one.’ Dyma grisialu thema’r nofel bositif yma – bod bywyd yn fyr a dylid trio ei fwynhau cymaint â phosib. Mae Marlyn ei hun yn ceisio dilyn y cyngor yma yn ei bywyd ei hun:

 

“Gwnes i sylweddoli pa mor bwysig ydi cymryd pob cyfle ar ôl colli ffrind annwyl iawn i mi, ers dyddiau ysgol, tair mlynedd yn ôl,” meddai Marlyn Samuel, “tydi hi byth rhy hwyr i fwynhau bywyd, gwaeth beth ydi’ch oed chi. Peidiwch â dweud ‘rhywbryd eto’ – tydi ‘fory’ ac ‘eto’ byth yn dŵad yn anffodus.”

 

Disgrifiwyd Cicio’r Bwced gan Bethan Jones-Parry fel “chwip o nofel fywiog, hwyliog gan awdures sydd yn adnabod ei phobl (ac yn giamstar ar roi geiriau yn eu cegau nhw!)” a sylw Linda Brown oedd “ro’n i’n crio un munud a chwerthin y munud nesaf!”

 

Mae Cicio’r Bwced yn dilyn dwy wraig – Menna a’i ffrind Jan. Ar ôl colli ei gŵr Glyn, wedi trawiad angheuol, mae Menna yn adennill ei bywyd. Gyda help Jan mae’n gweld nad yw hi byth yn rhy hwyr i fwynhau rhyddid, a chariad, am y tro cyntaf.

 

Mae nofelau blaenorol Marlyn, gan gynnwys Cwcw, Milionêrs a Llwch yn yr Haul wedi derbyn canmoliaeth uchel iddi fel awdures nofelau hwyliog, chick-lit, Cymraeg. Mae ei gwaith yn llenwi bwlch ym myd nofelau Cymraeg, gan fod nofelau ysgafn a chyfoes yn gymharol brin.

 

Meddai’r awdures:

“Mae yna lawer o nofelau llenyddol, hanesyddol, thrillers a storïau ditectif ond yn anffodus, am ryw reswm, tenau iawn ydi’r math yma o lyfr yn y Gymraeg. Nofelau ysgafn sy’n codi gwên cyn i chi fynd i gysgu, neu wrth i chi ymlacio o flaen y tân, neu fwynhau ar y traeth neu wrth y pwll – dyma’r math o lyfr rwy’n mwynhau ei ddarllen, a dwi’n edmygu nofelau Jo Jo Moyes a Marian Keyes yn fawr.”

 

“Rwy’n gobeithio bydd y nofel yn ysbrydoli rhai i fachu rhyw gyfle – rhywbeth maent wedi bod eisiau ei wneud ers tro. Rwy’n meddwl ei fod mor bwysig gwneud yn fawr o bob cyfle ac o’n hamser ar yr hen ddaear yma!”