Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Ffeithiau a syniadau fydd yn newid eich bywyd am byth - y llyfr Cymraeg cyntaf am 'freakonomics'

Yr wythnos hon cyhoeddir y llyfr Cymraeg cyntaf ym maes Freakonomics - math o lyfrau poblogaidd sy’n datgelu bod y pethau rydym yn eu cymryd yn ganiataol yn anghywir, a hynny yn ôl darganfyddiadau gwyddonol cyfoes.

 

Yn y New Scientist yr ymddangosodd y pennawd “Mae popeth rwyt ti’n ei feddwl - yn anghywir!”. Mae’r dystiolaeth a gasglwyd ar gyfer y gyfrol Amhos!b gan D. Geraint Lewis yn atgyfnerthu’r syniad yma. Rhith yw’r pethau rydyn yn eu cymryd yn ganiataol yn ein bywydau bob dydd, rhith sy’n deillio o ffrwyth ein dychymyg. Beth yw’r gwir? Mae’r ymennydd sy’n creu darluniau o’r signalau sy’n ein cyrraedd drwy ein llygaid. Felly, rydym yn creu ein realiti ein hunain ac fe all fod yn stori gadarnhaol neu’n un negyddol.

 

Mae amheuon  yn amlhau am wirioneddau a gwerthoedd a ystyriwyd yn oesol “Y canlyniad yw’r ymdeimlad o ansicrwydd, amheuaeth, anobaith a drwgdybiaeth sy’n nodweddion ein hoes,” meddai D. Geraint Lewis.

 

Mae’r gyfrol ‘boblogaidd’ hon yn llawn syniadau, ffeithiau, dyfyniadau a lluniau. Mae’n ymchwilio dylanwad magwraeth ac etifeddiaeth, yn sôn am bobl sydd wedi ymroi i’r gwir, fel Dr David Kelly, gŵr a gafodd ei erlyn nes cymryd ei fywyd ei hun yn 2003 ar ôl iddo faeddu siarad yn erbyn goresgyn Irac. Mae’r gyfrol yn llawn dyfyniadau doeth gan rai o’r meddylwyr mwyaf yn ein hanes, er enghraifft: “Gwir ddoethineb yw sylweddoli cyn lleied a wyddom am fywyd, amdanom ein hunain ac am y byd o’n cwmpas,” - Socrates.

 

Ceir trafodaeth ddifyr am hapusrwydd - pwnc pwysig iawn sydd yn aml ar flaen cylchgronau o bob math. Mae’r bennod yn dechrau wrth ofyn os ydy’r cwestiwn oesol ‘Beth mae’n rhaid imi wneud er mwyn bod yn hapus?’ yn un anghywir. Mae’n adrodd stori dda am y pysgotwr sy’n dewis gweithio i ennill yr hyn sydd angen arno i fyw, ac sy’n ymlacio weddill yr amser er mwyn dangos nad yw arian a llwyddiant yn prynu dedwyddwch.

 

“Fe all y llyfr hynod hwn droi’r ffordd rydych chi’n edrych ar y byd ar ei ben,” meddai Meleri Wyn James, golygydd y gyfrol. “Mae’n trafod y ffordd rydym ni’n edrych ar ein bywydau ni, y ffordd rydym ni’n dysgu ac yn ymateb i heriau a sut mae ein syniad ni o ‘ryddid’ meddyliol yn wahanol i’r hyn rydym yn ei gredu. Ond mae hi hefyd yn gyfrol gadarnhaol iawn ac yn rhannu syniadau rhai o feddylwyr ac awduron gorau ein hoes ar sut y gallwn ni newid ein ffordd o feddwl a gwella ein ffordd o fyw.”

 

Mae’r gyfrol yn ymateb i zeitgeist bywyd cyfoes. Mae ynddi ystod eang o wybodaeth, o’r defnyddiol i’r diddorol i’r anghyffredin, ac mae’n gyfrol y gellir pori ynddi dro ar ôl tro.