Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Dwy stori arall i gwblhau cyfres tylwyth teg y tymhorau

Yn dilyn cyhoeddiad storïau Rhoswen a Mwyaren, tylwyth teg yr hydref a’r gaeaf yn 2017, dyma gyflwyno Brwynwen a Briallen, sef tylwyth teg y gwanwyn a’r haf. Mae eu storïau’n cael eu cyhoeddi gan Y Lolfa’r wythnos yma, ac yn cwblhau pedwarawd o lyfrau ar y thema oesol honno, sef y tymhorau.

Mae Brwynwen a’r Aderyn Anferth a Briallen a Brech y Mêl, fel y ddwy stori flaenorol, yn canolbwyntio ar gymeriadau tylwyth teg y goedwig ac yn cyflwyno’r plant i nodweddion y tymor, byd natur ac anifeiliaid y goedwig. Mae’r bedair hefyd yn ffrindiau, ac yn ymddangos yn storïau ei gilydd. Mae’r elfen yma yn cryfhau’r teimlad o fyd cyfan, hudolus Maes y Mes.

Mae Nia Gruffydd yn byw yn Dinas, Llanwnda ac yn gweithio fel Rheolwr Gwasanaeth Llyfrgelloedd yng Ngwynedd. Mae ganddi brofiad helaeth o weithio gyda phlant, ac yn rhinwedd ei swydd ym myd llyfrau plant a phobl ifanc wedi dod i ddeall beth sydd yn apelio at blant ac yn gwneud iddynt eisiau darllen yn annibynnol.

'Roeddwn i eisiau sgwennu'r math o straeon fyddwn i wedi mwynhau'u darllen yn ifanc, lle mae rhywun yn gallu dianc i fyd y dychymyg, a dod ar draws merched a bechgyn cyffredin, cydradd â'i gilydd, yn cael antur!' meddai Nia.

Mae’r straeon hyn yn cynnwys penodau byr sy’n addas i’w darllen yn uchel i blant, neu gall plant sy’n dechrau meithrin blas at ddarllen, eu darllen ar eu pen eu hun.
Mae tylwyth teg Maes y Mes i gyd yn byw mewn cartrefi clyd ym moncyffion y coed derw, ac mae parchu’r planhigion a’r anifeiliaid sy’n byw yn y goedwig yn bwysig iawn iddyn nhw. Wrth gwrs, mae byd natur yn rhywbeth i’w drysori a rhyfeddu ato, ac os oes neges yn y llyfrau, yna yr angen i ni fod yn ofalus a goddefgar at fywyd a chreaduriaid eraill ein byd yw honno.

Lisa Fox, sy’n byw yng ngogledd Cymru, yw’r darlunydd unwaith eto, ac mae’i lluniau’n dod â byd a chymeriadau Maes y Mes yn fyw.

Mae Brwynwen a'r Aderyn Anferth yn dathlu diwrnod cyntaf y gwanwyn, pan mae pawb yn dod at ei gilydd i gasglu mwsog i'r adar bach gael gwneud eu nythod. Ond mae Sbrowtyn druan yn colli arian o hyd!

Briallen a Brech y Mêl yw stori'r haf. Mae parti mawr ar Ŵyl Ifan, sef gŵyl draddodiadol croesawu’r haf gyda dawnsio a dathlu, ac mae'r tylwyth teg yn cael ffrogiau newydd. Ond mae brech y mêl ar Briallen druan!

Gyda nifer o ddigwyddiadau wedi’u cynllunio dros yr haf, bydd yr awdures Nia yn brysur iawn yn dod â byd Maes y Mes i sawl cornel o Gymru.