Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Dwy nofel newydd i ddysgwyr gan awduron penigamp

Yn sgil poblogrwydd ysgubol Cyfres Amdani – cyfres o lyfrau wedi eu datblygu’n arbennig ar gyfer dysgwyr – mae’r Lolfa yn falch iawn i gyhoeddi dau deitl newydd sbon gan ddau diwtor Cymraeg profiadol sydd hefyd yn awduron penigamp: Gorau Glas gan Lois Arnold (Lefel Mynediad) a Rob gan Mared Lewis (Lefel Uwch).

Mae’n ffaith bod darllen yn help mawr yn y broses o ddysgu iaith, ac mae hyn yn wir o’r cychwyn cyntaf. Mae darllen yn rhoi’r cyfle i rywun gyfarwyddo â geiriau a phatrymau gramadegol ac yn atgyfnerthu geirfa yn y cof. Mae iaith Cyfres Amdani wedi ei olygu gan arbenigwr ym maes dysgu Cymraeg i oedolion a cheir geirfa ar bob tudalen ac yn y cefn.

Meddai Lefi Gruffudd o wasg Y Lolfa:
“Mae Cyfres Amdani wedi bod yn boblogaidd iawn ers dechrau’r gyfres yn 2018. Mae’r gyfres yn llenwi bwlch drwy roi cyfle i ddysgwyr Cymraeg fwynhau darllen amrywiaeth o nofelau cyfoes, o nofel syml iawn fel Gorau Glas gan Lois Arnold i rywbeth mwy uchelgeisiol fel Rob gan Mared Lewis. Rydym yn falch iawn o allu cyhoeddi mwy o lyfrau sy’n annog dysgwyr i ddarllen ac o gydweithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wrth gyhoeddi’r ddwy nofel.”

Datblygwyd y gyfres yn wreiddiol yn 2018 ar y cyd gan Gyngor Llyfrau Cymru, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a phedair gwasg (Y Lolfa, Gomer, CAA ac Atebol). Mae’r llyfrau wedi eu graddoli ar bedair lefel – Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch – i gyd-fynd â chyrsiau y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae’r gyfres hefyd yn addas i bobl sydd eisiau ailgydio yn y broses ddysgu a phobl sydd yn rhugl ond angen magu hyder wrth ddarllen.

Am y llyfrau:

Gorau Glas gan Lois Arnold 
Nofel hwyliog i ddysgwyr Lefel Mynediad ar ffurf cyfres o straeon am anturiaethau’r swyddog heddlu Alix Jenkins a’i chriw o gyd-weithwyr. Mae’r nofel hefyd yn elwa o luniau du a gwyn gwreiddiol gwych yr artist Carl Pearce.

Dysgodd Lois Arnold Gymraeg fel oedolyn gan ennill Tlws Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd yn 2004. Enillodd gystadleuaeth creu deunyddiau darllen i ddysgwyr yn Eisteddfod Meifod a ffrwyth hynny oedd ei chyfrol gyntaf Cysgod yn y Coed. Erbyn hyn mae’n awdur pedair nofel i ddysgwyr. Mae Lois yn byw ym Mhorth Tywyn yn Sir Gâr.

Rob gan Mared Lewis
Nofel ddoniol a dwys sy’n olrhain treialon tad sengl sy’n symud gyda’i blant i ardal lled gyfarwydd iddo ar ôl tor priodas. Mae’n cynnig stori ddifyr, cymeriadau crwn ac ieithwedd addas i Lefel Uwch.

Disgrifiodd Bethan Gwanas hi fel 'nofel gynnes annwyl am ddechrau eto....'

Mae Mared Lewis yn awdures adnabyddus ac yn ddramodydd. Cyrhaeddodd ei nofel Cymraeg Maison du Soleil restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2009 ac mae wedi ysgrifennu nifer o lyfrau i ddysgwyr hefyd, gan gynnwys Llwybrau Cul a Fi, a Mr Huws. Mae Mared Lewis yn byw yn Llanddaniel Fab, Ynys Môn.