Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Dwy awdur yn mynd ati i geisio llenwi’r ‘bwlch anferthol’ mewn llyfrau Cymraeg i’r arddegau

Mae dwy o awduron amlycaf Cymru wedi cymryd cam at lenwi’r bwlch ‘anferthol’ sydd mewn llyfrau Cymraeg ar gyfer oedolion ifanc drwy gyhoeddi dwy drioleg newydd sbon yn sgil derbyn comisiwn gan Lywodraeth Cymru.

Dyma’r triolegau cyntaf yn y Gymraeg i oedolion ifanc. Mae’r ddwy drioleg eisoes wedi cael eu cymharu i driolegau megis The Hunger Games gan Suzanne Collins ac His Dark Materials gan Philip Pullman.

Bydd Bethan Gwanas a Lleucu Roberts yn cyhoeddi’r cyntaf o’u triolegau newydd yr wythnos hon sef Cyfres Y Melanai: EFA a Chyfres Yma: Yr Ynys – ill dwy ar gyfer yr arddegau.

Cafodd y prosiect o ysgrifennu dwy gyfres o dair nofel trioleg ar gyfer oedolion ifanc ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru yn rhan o’u rhaglen comisiynu adnoddau i gefnogi addysgu a dysgu’r Gymraeg fel pwnc a phynciau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg. Daeth y syniad o greu’r ddwy drioleg i ffrwyth yn dilyn ymgynghori gyda phanel o athrawon. Bydd nofelau cyntaf y ddwy drioleg yn cael eu cyhoeddi yr wythnos hon, gyda’r ail a’r drydedd i ddilyn yn Hydref 2018 ac wedyn Mawrth 2019.

Bydd dwy ffilm fer arbennig hefyd yn cael eu creu gan y cynhyrchydd Catrin MS Davies gyda’r nod o ennyn cyffro a disgwylgarwch o amgylch y triolegau.

‘Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’r galw gan athrawon i greu adnodd newydd a chyffrous i ddisgyblion Cyfnodau Allweddol 3 a 4. Mae comisiynu adnoddau o’r fath i bobl ifanc, nid yn unig yn fodd o hybu sgiliau darllen, ond yn fodd o wneud y Gymraeg yn apelgar ac yn fyw i’r arddegau’ meddai Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, ‘Rwy’n siŵr y bydd y llyfrau yma yn boblogaidd iawn ymysg pobl ifanc a dymunaf longyfarch Y Lolfa a’r tîm awduro am ymateb yn gadarnhaol i’r her.’

‘Mae comisiynu’r prosiect hwn yn ymateb i amcan a nodir o fewn Cymraeg 2050, Strategaeth Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru i gynhyrchu adnoddau sy’n cefnogi datblygiad addysg cyfrwng Cymraeg’ ychwanegodd.

Yn ôl Bethan Gwanas, mae’r comisiwn yn un i’w groesawu yn fawr.

‘Mae ’na fwlch anferthol a phoenus yn y maes llyfrau gwreiddiol ar gyfer yr arddegau. Dyma’r maes sy’n gwerthu orau yn Saesneg ers blynyddoedd bellach, ond rydan ni ar ei hôl hi’n arw yn Gymraeg. Pam?’ meddai Bethan Gwanas.

‘Ym mlynyddoedd yr arddegau y mae pobl ifanc yn troi’n llarpwyr llyfrau yn hytrach na dim ond darllenwyr felly mae gofyn cael deunydd sy’n bwydo’r ysfa i ddarllen, i fynd i fydoedd newydd, a diwallu chwiwiau’r dychymyg’ meddai Lleucu Roberts, ‘Mae’r meddwl arddegol yn fwystfil anodd iawn ei ddigoni!’

‘Dwi mor falch felly bod yn cynllun hwn, sydd wedi ei gomisynu gan Lywodraeth Cymru, wedi dod i fodolaeth!’ ychwanegodd Bethan.

Yn Efa - y nofel gyntaf yn nhrioleg Y Melanai ar gyfer yr arddegau cynnar gan Bethan Gwanas, mae’n rhaid i Efa, tywysoges y Melanai, ar ei phen-blwydd yn 16 oed, ladd ei mam, y frenhines. Dyna’r drefn yng ngwlad Melania ers milenia; trefn sy’n sicrhau mai brenhines ifanc, iach a chryf sy’n rheoli. Ond fu Efa erioed yn un am ddilyn y drefn.

‘Mi ges i’r syniad am Efa a gwlad o’r enw Melania drwy fy ngwenyn mêl. Yn eu byd nhw, pan fyddan nhw’n teimlo bod y frenhines wedi dod i ddiwedd ei hoes, maen nhw’n dechrau magu brenhines(au) newydd,’ eglurodd Bethan. ‘Weithiau, mae’r hen frenhines yn hedfan i ffwrdd efo hanner y cwch, ond weithiau, mae’r frenhines ifanc yn lladd ei mam. Mi wnes i ddechrau meddwl… beth petai’r byd dynol yn mabwysiadu’r un arfer?’

‘Mae ’na ddigon o straeon a chwedlau am feibion yn lladd eu tadau – a’u mamau o ran hynny – ond ychydig iawn am ferched yn lladd eu mamau,’ meddai.

‘Mae Efa yn gymeriad cryf ond nid yn berffaith o bell ffordd. Mae hi’n gallu bod yn ddiamynedd a myfïol ac yn siarad cyn meddwl weithiau,’ ychwanegodd Bethan. ‘Ond mae ganddi ffrindiau, yn ferched a bechgyn, sy’n driw iddi ac yn ei chadw’n gall.’

Yr Ynys yw’r nofel gyntaf yn nhrioleg YMA ar gyfer yr arddegau hŷn gan Lleucu Roberts.

Cyn i fomiau niwclear ddod yn agos at ddinistrio bywyd ar y ddaear yn 2030, aeth 49 o bobl i guddio mewn ogof ar ynys oer, anghysbell. Ganrif yn ddiweddarach wedi ffrwydrad dinistriol y Diwedd Mawr, mae cymdeithas wedi datblygu yno. Pan mae’r ynyswyr yn trefnu taith yn ôl i Gymru er mwyn darganfod mwy am fywyd eu hynafiaid, mae Cai a Gwawr yn benderfynol o fod yn rhan o’r criw. Ond beth sydd yn eu disgwyl?

‘Does dim i gymharu â’r dychymyg arddegol, ysfa pobl ifanc i ddianc i fyd arall, i fywydau eraill mewn oes wahanol. Dim ond cynnig egin stori mae’r awdur yn ei wneud – agor llifddorau’r dychymyg,’ meddai Lleucu Roberts. ‘Y darllenydd sy’n rhoi lliw a sain, anadl a bywyd i’r byd newydd.’

Awdur dros tri deg o lyfrau i blant ac oedolion yw Bethan Gwanas. Mae’n byw ger Dolgellau. Enillodd wobr Tir na n-Og ddwywaith am Llinyn Trôns a Sgôr.

Daw Lleucu Roberts o Geredigion yn wreiddiol ond mae’n byw yn Rhostryfan ers chwater canrif. Enillodd wobr Tir na n-Og ddwywaith am Annwyl Smotyn Bach a Stwff. Mae hi hefyd yn gyfieithydd ac yn sgriptio ar gyfer y teledu.

Bydd yr ail yn y ddwy drioleg yn dilyn yn Hydref 2018 gyda Bethan a Lleucu yn mynd ar daith o amgylch ysgolion yn y flwyddyn newydd er mwyn trafod y nofelau.