Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Diweddglo "tanllyd" i'r "drioleg drosedd orau yn yr iaith Gymraeg"

Disgrifiwyd trioleg drosedd Alun Davies fel “y drioleg orau i fi ddarllen yn yr iaith Gymraeg” gan yr awdur arobryn a’r plot-feistr Llwyd Owen.

Yr wythnos hon cyhoeddir nofel olaf y drioleg, sef Ar Daith Olaf  (Y Lolfa) gan ddilyn y nofelau hynod boblogaidd Ar Drywydd Llofrudd ac Ar Lwybr Dial gan ddod â’r drioleg afaelgar a thywyll hon i ben. Mae’r arddull yn adleisio storïau dirgelwch a chyfresi teledu Scandi ac fel y ddwy nofel gyntaf, mae yna ddirgelwch i’w ddatrys yn ardal Aberystwyth.

Meddai’r awdur Alun Davies:

“Mae dros bum mlynedd bellach ers i mi ddechrau ar y nofel gyntaf, Ar Drywydd Llofrudd, ac roedd yn rhyfedd i feddwl wrth ysgrifennu Ar Daith Olaf na fydden i’n gweld y byd drwy lygaid y ditectif Taliesin MacLeavy eto. Mae’r adborth dwi wedi ei dderbyn am y ddwy nofel gyntaf wedi bod yn anhygoel, yn enwedig y ffordd mae’r darllenwyr wedi cymryd at gymeriad Taliesin, felly mi oedd yna gryn bwysau i orffen ei stori e’n iawn. Er bod y stori ei hun wedi ei chynllunio o flaen llaw, roeddwn i mewn dau feddwl ynglŷn â diweddglo'r nofel, ac fe wnes i ysgrifennu dau set wahanol o benodau olaf cyn penderfynu pa un i’w ddefnyddio.”

Am y nofel, dywed Alun:

“Ma gyda’r llyfr yma'r holl elfennau hanfodol y gyfres – llofruddiaethau, ambell i dro annisgwyl, a Taliesin yn brwydro i ddatrys y ddirgelwch am y tro olaf.”

Yn Ar Daith Olaf mae Taliesin MacLeavy wedi ei orfodi i ymddeol fel ditectif oherwydd atgofion hunllefus hen achosion. Ond pan mae e’n dechrau cyfrannu i bodlediad am droseddau gwir mae linc yn cyrraedd am lofruddiaeth go iawn. Ond pwy yw’r llofrudd a pham mae’n edrych i’r gorffennol?

Canmoliaeth Ar Lwybr Dial:

“Nofel sy’n werth colli cwsg drosti” – Richard Harrington (Ditectif Mathias yn nghyfres Y Gwyll ar S4C (ac Hinterland ar y BBC)

Am ddyfodol heb Taliesin MacLeavy, meddai Alun Davies:

“Ar hyn o bryd rwy’n ysgrifennu nofel ar gyfer oedolion ifanc sydd yn dod â’r Mabinogi i’r byd cyfoes. Mae’n dilyn arwr newydd, bachgen o’r enw Manawydan Jones, sy’n cael ei dynnu i frwydr rhwng y goleuni a’r tywyllwch – ddim cweit mor waedlyd â llyfrau Taliesin ond gyda digon o gyffro ac antur! Yn bellach i’r dyfodol, dydw i ddim yn meddwl byddwn ni’n clywed gan Taliesin eto, ond efallai nad yw’r enw MacLeavy wedi diflannu am byth…!