Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Disgybl ysgol yn ysbrydoli llyfr am ddeinosoriaid

Mae Bethan Gwanas wedi datgelu taw disgybl ysgol o’r enw Tyler Chown, o Ysgol Bro Cinmeirch, wnaeth ei hysbrydoli i ysgrifennu ei llyfr diweddaraf. Mae Cadi a’r Deinosoriaid yn lyfr llun a stori ar gyfer darllenwyr ifanc rhwng 5 a 8 oed. Tra’n trafod dau lyfr cyntaf cyfres Cadi gyda disgyblion yr ysgol awgrymodd Tyler y byddai’n syniad da i Cadi fynd i fyd y deinosoriaid – a chael ei llyncu, a dyna oedd yr hadyn berodd i Bethan Gwanas fynd ati i ysgrifennu’r llyfr. Ym mlwyddyn dau yr oedd Tyler ar y pryd, ac erbyn hyn mae ym mlwyddyn pedwar.

 

Mae Cadi a'r Deinosoriaid, yn llawn darluniadau lliwgar gan Janet Samuel o Bontarddulais sydd yn dod a’r jyngl yn fyw.

“Dwi wedi gwirioni efo lluniau Janet - maen nhw’n wych!” meddai Bethan Gwanas am waith y darlunydd sydd wedi darlunio’r tair stori yng nghyfres Cadi.

 

Mae Bethan yn bendant ei barn am lyfrau gwreiddiol Cymraeg, ac yn credu’n gryf bod dylanwad cartrefi’n gryfach na dylanwad ysgol o ran arferion darllen. Meddai Bethan,

“Dim ond hyn a hyn all ysgolion ei wneud, mae’n rhaid i gariad at lyfrau fod yn rhan o fywyd y cartref. Mae rhieni, brodyr a chwiorydd, neiniau a theidiau yn gallu bod o help mawr drwy ddarllen iddyn nhw yn ifanc a’u helpu wedyn i ddarllen drostyn nhw eu hunain - a chael eu gweld yn darllen eu hunain,” cyn ychwanegu:

“Dwi’n credu’n gryf bod angen hybu llyfrau gwreiddiol Cymraeg o Gymru ymysg yr oedran 7+. Dydyn nhw na’u teuluoedd jest ddim yn gwybod be sydd ar gael gan fod cyfieithiadau o’r Saesneg yn cael y sylw i gyd. Dim sylw = dim gwerthiant = llai o awduron Cymraeg.” 

 

Mae'r llyfr wedi ennill clod gan athrawon am fod y stori’n dysgu plant sut mae'r system dreulio yn gweithio mewn ffordd ddoniol ac addysgiadol. Dywed un athrawes ei bod wrth ei bodd efo'r stori, gan ychwanegu, “‘Sa plant yn gwirioni efo'u hathrawon yn darllen am pŵ a phwmps!!"