Dilyniant i enillydd Gwobr Tir na n-Og 2021
Yr wythnos hon cyhoeddir Sara Mai a Lleidr y Neidr (Y Lolfa), sef dilyniant i Sw Sara Mai – y nofel a enillodd Gwobr Tir na n-Og eleni. Mae’r ail gyfrol yn ymweld eto â Sw Halibalŵ ac yn rhoi’r cyfle i ni ddod i adnabod Sara Mai yn well ac i ddysgu mwy am gyfeillgarwch, cyfrinachau a phwysigrwydd peidio beirniadu pobl ar sail eu hedrychiad, yn ôl yr awdur Casia Wiliam.
Meddai Casia
Wiliam:
“Dwi wedi bod yn
mwynhau nofelau ditectif yn ddiweddar, felly nes i feddwl y byddai’n hwyl cael
dirgelwch yn Sw Halibalŵ, gyda Sara Mai a’i ffrindiau yn gwneud y gwaith
ditectif! Mae nifer o’n hoff gymeriadau yn ôl,
ond mae llawer o gymeriadau newydd hefyd gan gynnwys Tywysoges Jasmine (cariad
newydd Seb) a Nisien y neidr wrth gwrs!”
Am ennill y Wobr
Tir na n-Og, meddai Casia:
“Roedd ennill Gwobr Tir na n-Og 2021 yn fraint ac yn deimlad
arbennig. Roeddwn i wir wedi gwirioni. Ond er mor hyfryd yw ennill gwobr, y
peth gorau yw clywed cymaint o blant yn dweud eu bod nhw wedi mwynhau Sw
Sara Mai.”
Mae’r gyfres yn plethu ffraethineb a dwli (mae yna jiráff
sydd yn ofn uchder yn y nofel gyntaf) gyda negeseuon pwysig. Dywedodd Bethan
Gwanas am Sw Sara Mai:
“Mae ’na hiwmor hyfryd yma, a llwyth o ddigwyddiadau…
Clincar!”
Cafodd Sw Sara Mai clod hefyd am gyflwyno prif
gymeriad hil gymysg a thrafod hiliaeth. Meddai Casia:
“Mae’n bwysig bod ein llenyddiaeth yn adlewyrchu ein
cymdeithas ni yng Nghymru heddiw, er mwyn i bob plentyn fedru adnabod eu hunain
mewn llyfr. Mae angen mwy o amrywiaeth o fewn llenyddiaeth plant, ac yn
arbennig hefyd bod angen i’r prif gymeriad fod o gefndir cymysg, nid dim ond yn
gymeriad ymylol. Roeddwn i’n awyddus i drafod hiliaeth mewn nofel, heb i hynny
deimlo fel ‘gwers’ fel petai.”
Mae Sara Mai a
Lleidr y Neidr wedi’i hanelu at blant 7 i 11 oed. Mae rhywun wedi dwyn
neidr werthfawr iawn o Sw Halibalŵ, felly mae Sara, Oli a’r criw yn dechrau ar
y gwaith pwysig o geisio darganfod pwy yw lleidr y neidr. Fydd y plant yn dod o
hyd i’r dihiryn? Ai rhywun diarth fydd yn gyfrifol, neu rywun sydd reit o dan
eu trwynau?