Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Deian a Loli - y sêr yn disgleirio ar gyfer y Nadolig

Mae Deian a Loli wedi mynd i ysbryd y Nadolig gyda llyfr newydd am ddeffro’r sêr - sy’n cael ei gyhoeddi gan Y Lolfa.

 

Yn Deian a Loli a’r Sêr sy’n Cysgu mae’r efeilliaid direidus yn cael trafferth cysgu, ac wrth edrych allan drwy’r ffenestr tra’n cael gwledd ganol nos, maen nhw’n sylwi bod y sêr wedi diflannu!

 

Maent yn defnyddio’u pwerau hudol ac yn mynd ar daith i grombil y nos ddu i ddatrys y dirgelwch gan weld rhyfeddodau’r gofod ar y ffordd.

 

Ysbrydolwyd y cymeriad Madam Zêra yn y stori gan yr enwog Madam Sera. Meddai Angharad Elen, awdur y llyfr a chynhyrchydd y gyfres deledu:

 

“Mae gen i gof clir iawn o Madam Sera pan o’n i’n hogan fach. Roedd hi’n gweithio yn Llyfrgell Caernarfon ac roedd hi’n dotio at blant. I mi, roedd hi’n rhyw gymeriad arallfydol - gyda llais cryg a bynsan ddu ar dop ei phen. Roedd hi’n sêr-ddewines, wrth gwrs, ac mi wnaeth dipyn o argraff arna’i mae’n rhaid! Rhyw gyfuniad o Madam Sera a’r Ddewines Hud yn Superted ydi’r Madam Zêra yma.”

 

Mae’r gyfres deledu Deian a Loli, sydd yn cael ei chynhyrchu gan Cwmni Da, eisoes yn adnabyddus ac yn boblogaidd gan blant Cymru. Enwyd y ddau ddireidus yn hoff gymeriadau gwylwyr Cyw mewn arolwg yn 2018 i ddathlu pen-blwydd Cyw yn ddeg oed.

 

Dywed Angharad: “Mae’n wych gweld cyhoeddi’r llyfr yma mewn da bryd ar gyfer darlledu’r gyfres newydd, fydd ar S4C yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Rydan ni’n cynnal rhagddangosiadau ledled Cymru dros gyfnod y Nadolig - 13 dangosiad mewn 6 chanolfan wahanol. Mae’r ffaith fod y tocynnau i gyd wedi diflannu o fewn munudau yn destament o lwyddiant y rhaglen ac apêl y cymeriadau.”

 

Daw hyn rai wythnosau ar ôl i Cwmni Da glywed fod y rhaglen deledu wedi cael ei henwebu am Broadcast Award - yr unig raglen Gymraeg i gael enwebiad eleni - ochr yn ochr â chynyrchiadau gan Disney, CBBC a Nickelodeon Jr.

 

Mae Angharad a Nest Llwyd Owen - artist y darluniau cain a welir yn y llyfr - yn ffrindiau bore oes ac mae’r ddwy wrth eu boddau i gael y cyfle i gydweithio ar y prosiect hwn.

 

Cyhoeddwyd y llyfr cyntaf yn y gyfres dros yr haf a bu gweithdai yn Ngŵyl Arall Caernarfon, yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd ac yn nigwyddiad Annibynnwyl (Yes Cymru) yng Nghaernarfon. Penderfynodd Nest gynnwys rhai o ddarluniau plant gweithdy Annibynnwyl - sydd i’w gweld yn addurno wal Deian a Loli yn gyfrol hon.

 

Cafwyd adolygiadau gwresog am Deian a Loli a’r Bai ar Gam gyda Mared Lewis yn dweud:

 

“Mae ysgrifennu Angharad Elen yn naturiol a chyfoethog ac yn frith o eirfa goeth a throeon ymadrodd Cymraeg hyfryd… Mae darluniau bendigedig Nest Llwyd Owen yn ychwanegu’n gelfydd at y stori – rhai lliwgar, trawiadol… Dyma lyfr a fydd, heb os, yn sicr o blesio plant a rhieni fel ei gilydd ledled Cymru.”

Mae’r rhaglenni teledu â ffigurau gwylio uchel iawn - 7,000 y bennod ar gyfartaledd - ac yn hawlio 30% o’r gynulleidfa bosib ar ei chyfer.