Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Dechrau dathlu hanner canmlwyddiant gwasg y Lolfa

Mae'r dathliadau i nodi hanner canmlwyddiant sefydlu gwasg Y Lolfa wedi dechrau gyda chyhoeddi calendr arbennig o hen bosteri.

Casgliad o bosteri masnachol a gwleidyddol o'r chwedegau a'r saithdegau a argraffwyd gan Y Lolfa yw Calendr Posteri'r Lolfa 2017.

Cyhoeddir i gydfynd â dathliadau 50 oed Y Lolfa yn 2017.

Ymhlith y posteri ceir 'Gwnewch Bopeth yn Gymraeg' – fel a welir ar y clawr, y poster eiconig sy'n dangos bachgen a merch yn caru yn erbyn cefndir lliwgar. Darluniwyd hon gan Elwyn Ioan yn 1972 ac ailargraffwyd sawl gwaith dros y degawadau. Ceir clasuron eraill megis y llun enwog o Eirwyn Pontshân – 'Gwell Llaeth Cymru na Chwrw Lloegr'.

Ceir hefyd rhai fwy gwleidyddol megis y llun poblogaidd o Ifas y Tryc o flaen Jac yr Undeb, 'Britannia Rŵls ddy Wêls' a darlun John Jenkins, 'Gwyn eu Byd y Rhai Erlidir o Achos Cyfiawnder' a luniwyd pan oedd ef yn y carchar.

Daw eraill o'r byd pop gan ail ymweld a byd y Pinaclau Pop, disco Mici Plwm, a seicadelia diwedd y chwedegau ym mhoster grŵp Y Blew – y grŵp roc trydanol cyntaf erioed yn Gymraeg. Ceir eiconau cyfarwydd eraill hefyd ar ffurf Meic Stevens, Dafydd Iwan, â'r Tebot Piws sydd yn ymddangos ar bosteri lliwgar sy'n adleisio hwyl a hyder y cyfnod.

'Bydd yn apelio at nostaljia'r genhedlaeth hŷn ond yn fwyaf, gobeithio, at y genhedlaeth iau nad oedd o gwmpas pan sefydlwyd y cwmni yng nghyffro diwedd y chwedegau.' meddai sylfaenydd gwasg Y Lolfa, Robat Gruffudd.

Sefydlwyd gwasg Y Lolfa yn 1967 mewn cyfnod cyffrous pan oedd cenhedlaeth o Gymry ifainc yn credu mewn chwyldro ac mewn ymestyn yr iaith i bob ffrwd o fywyd. Yn raddol ehangodd y cwmni mewn maint ac mewn cynnyrch a flwyddyn nesaf bydd dathliadau i nodi hanner canmlwyddiant y cwmni.