Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Daw eto haul ar fryn - neges nofel gyntaf Heiddwen Tomos i'r arddegau

Ar ôl derbyn clod am ei nofelau i oedolion, mae’r awdures boblogaidd o ardal Llanbedr Pont Steffan yn troi ei llaw at nofel i’r arddegau ac yn cyhoeddi ei nofel gyntaf. Mae Heb Law Mam yn llawn hiwmor, problemau teuluol a charwriaethol, a chyfeillgarwch ffug.

“Rwy’n athrawes uwchradd ers sawl blwyddyn, a hynny yw’r ysbrydoliaeth mwyaf ar gyfer ysgrifennu’r nofel hon. Mae ffrindiau, teulu, gofidiau wrth dyfu, iechyd a chariad cyntaf i gyd yn themâu amlwg ynddi. Neges y stori yw bod cyfnodau ym mywydau pawb gallu bod yn anodd, ond daw eto haul ar fryn,” meddai Heiddwen Tomos.

Stori am Efa, sy’n cael amser caled gan Gwen a rhai o’i ‘ffrindiau’ yw hi. Mae mam Efa yn yr ysbyty yn disgwyl babi, a hefyd yn aros am driniaeth gancr. Does neb yn fodlon gwrando ar Efa, na’i deall ei phroblemau’n iawn, heblaw ei mam.

Mae’r diniweidrwydd a’r agosatrwydd rhwng mam a merch yn cael ei herio gan salwch difrifol y fam. Disgrifiwyd y nofel yn “gonest, diniwed a thorcalonnus” gan yr awdures. Meddai Heiddwen:

“Fe wnes i fwynhau ysgrifennu’r nofel hon mas draw. Fel mam i dri o blant, penderfynais ysgrifennu nofel iddyn nhw i’w darllen. O ran ysgrifennu mwy i’r arddegau, mae hynny’n sicr, mae cael bod yn bryfyn ar wal yn yr ystafell ddosbarth yn gyfoeth o straeon difyr dros ben!”

Mae’r nofel yn debyg i’r gyfres boblogaidd, fyd-eang Dork Diaries, ac mae lluniau du a gwyn, fel dwdls, negeseuon testun a nodiadau byr, yn britho’r tudalennau.