Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Dathlu enwau lleoedd Cymru ac anrhydeddu'r Athro Gwynedd O Pierce yn 100 oed

Cyhoeddir yr wythnos hon gasgliad o 20 erthygl safonol ar enwau lleoedd gan arbenigwyr o Gymru a thu hwnt, wedi eu dwyn ynghyd gan Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru (£14.99, Y Lolfa) er mwyn dathlu pen-blwydd yr Athro Gwynedd O. Pierce yn 100 oed.

Ceir 20 erthygl yn Ar Drywydd Enwau Lleoedd: 13 yn Gymraeg a 7 yn Saesneg. Cyflwynir y gyfrol i’r Athro Pierce, a wnaeth fwy na neb i sicrhau bod gwyddor astudio enwau lleoedd yng Nghymru wedi ei gosod ar seiliau cwbl gadarn.

Meddai Dr Dylan Foster Evans, Cadeirydd Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru:

Mae cyfraniadau’r Athro Gwynedd O. Pierce i astudiaethau enwau lleoedd yng Nghymru yn gwbl anhepgor. Yn ogystal â thorri tir newydd trwy gyfrwng ei ymchwil academaidd, mae Gwynedd hefyd wedi ennyn diddordeb y cyhoedd ehangach trwy esbonio hanes ac arwyddocâd ein henwau lleoedd mewn ystod o gyhoeddiadau hygyrch a phoblogaidd.

Er mwyn talu teyrnged iddo ar ei ben-blwydd yn gant oed, mae nifer o’i gyfeillion a’i gydweithwyr wedi dod ynghyd i gyfrannu amrywiaeth o erthyglau ym maes astudiaethau enwau yng Nghymru a’r gwledydd Celtaidd. Nod pob un o’r penodau yw gwneud yr hyn y mae Gwynedd yn gymaint o feistr arno, sef taflu goleuni ar gyfoeth ein hetifeddiaeth ieithyddol.” 

Ganed Gwynedd O. Pierce yng Nghaernarfon. Cafodd yrfa academaidd ddisglair a bu’n bennaeth ar Adran Hanes Cymru, Coleg Prifysgol De Cymru a Mynwy (Prifysgol Caerdydd, fel y mae heddiw). Bu’n weithgar iawn ym maes enwau lleoedd ar hyd ei yrfa ac fe’i etholwyd yn Llywydd er Anrhydedd Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru yn 2012.

Yn y gyfrol hon dysgwn am enwau strydoedd Aberaeron a Chaerdydd, am enwau ardal Caernarfon – tref enedigol yr Athro Pierce – gan gynnwys enwau lleiniau pysgota a throbyllau yn y Fenai; ceir erthyglau am enwau lleoedd ar draws Cymru a’r Gororau; am enwau mewn hen destunau canoloesol; am hanes yr ymgyrch i safoni enwau lleoedd Cymru (gan esbonio rhan allweddol yr Athro Pierce yn y gwaith hwnnw); ac am waith Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru yn hybu prosiectau cymunedol i gofnodi a gwarchod ein henwau lleoedd. Ceir hefyd erthyglau gan arbenigwyr o Iwerddon, yr Alban a Chernyw – gan drafod, er enghraifft, y cyswllt rhwng Penarth ym Morgannwg a’r 11 Penarth a geir yng Nghernyw.

Golygwyd y gyfrol gan Gareth A. Bevan, Angharad Fychan, Hywel Wyn Owen ac Ann Parry Owen.